Deddf Safonau a Threfniadaeth Ysgolion (Cymru) 2013

51Eu cymeradwyo gan awdurdod lleol
This section has no associated Explanatory Notes

(1)Mae’n ofynnol i gynigion a gyhoeddir o dan adran 48 gael eu cymeradwyo o dan yr adran hon os—

(a)nad yw’n ofynnol iddynt gael eu cymeradwyo o dan adran 50,

(b)ydynt wedi eu gwneud gan gynigydd ac eithrio’r awdurdod lleol perthnasol, ac

(c)yw gwrthwynebiad i’r cynigion wedi ei wneud yn unol ag adran 49(2) ac nad yw wedi ei dynnu’n ôl yn ysgrifenedig cyn diwedd 28 o ddiwrnodau gan ddechrau ar ddiwedd y cyfnod gwrthwynebu.

(2)Pan fo’n ofynnol i gynigion gael eu cymeradwyo o dan yr adran hon, rhaid i’r cynigydd anfon copi o’r dogfennau a restrir yn is-adran (3) at yr awdurdod lleol perthnasol cyn diwedd 35 o ddiwrnodau gan ddechrau ar ddiwedd y cyfnod gwrthwynebu.

(3)Y dogfennau yw’r canlynol—

(a)yr adroddiad a gyhoeddir o dan adran 48(5),

(b)y cynigion cyhoeddedig,

(c)gwrthwynebiadau a wneir yn unol ag adran 49(2) (ac nad ydynt wedi eu tynnu’n ôl), a

(d)yr ymateb a gyhoeddir o dan adran 49(3).

(4)Pan fo’n ofynnol i gynigion gael eu cymeradwyo o dan yr adran hon, caiff yr awdurdod lleol perthnasol—

(a)gwrthod y cynigion,

(b)eu cymeradwyo heb eu haddasu, neu

(c)eu cymeradwyo gydag unrhyw un o’r addasiadau a bennir yn is-adran (5)—

(i)ar ôl cael cydsyniad Gweinidogion Cymru a‘r cynigydd â’r addasiadau, a

(ii)(ac eithrio os y cynigydd yw’r corff llywodraethu), ar ôl ymgynghori â chorff llywodraethu (os oes un) yr ysgol y mae’r cynigion yn ymwneud â hi.

(5)Caiff yr awdurdod lleol perthnasol addasu—

(a)y dyddiad neu’r dyddiadau a bennir yn y cynigion cyhoeddedig fel y dyddiad neu’r dyddiadau y bwriedir gweithredu’r cynigion;

(b)nifer y disgyblion a bennir yn y cynigion cyhoeddedig fel y nifer sydd i’w derbyn i’r ysgol (mewn unrhyw grwp oedran ac mewn unrhyw flwyddyn ysgol).

(6)Caniateir i gymeradwyaeth ddatgan mai dim ond os bydd digwyddiad a bennir yn y gymeradwyaeth yn digwydd erbyn dyddiad a bennir felly, y byddai’n dod yn weithredol.

(7)Caiff yr awdurdod lleol perthnasol, ar gais y cynigydd, bennu dyddiad diweddarach erbyn pryd y mae’r digwyddiad y cyfeiriwyd ato yn is-adran (6) i ddigwydd.

(8)Rhaid i’r awdurdod lleol perthnasol wneud penderfyniad o dan is-adran (4) p’un ai i wrthod neu i gymeradwyo’r cynigion cyn diwedd y cyfnod o 16 o wythnosau gan ddechrau ar ddiwedd y cyfnod gwrthwynebu.

(9)Nid yw is-adran (1) yn atal cynigion rhag cael eu tynnu’n ôl drwy hysbysiad ysgrifenedig a roddir gan y cynigydd i’r awdurdod lleol perthnasol ar unrhyw bryd cyn iddynt gael eu cymeradwyo o dan yr adran hon.

(10)Nid yw’n ofynnol i gynigion a wneir o dan adran 43 neu 44 i derfynu ysgol sy’n ysgol fach (gweler adran 56) gael unrhyw gymeradwyaeth o dan yr adran hon.

(11)Yn yr adran hon ystyr “awdurdod lleol perthnasol” yw’r awdurdod lleol sy’n cynnal, neu y cynigir ei fod yn cynnal, yr ysgol y mae’r cynigion yn ymwneud â hi.