Deddf Safonau a Threfniadaeth Ysgolion (Cymru) 2013

53PenderfynuLL+C
This section has no associated Explanatory Notes

(1)Pan nad yw’n ofynnol i unrhyw gynigion a gyhoeddir o dan adran 48 gael eu cymeradwyo o dan adran 50 neu 51, rhaid i’r cynigydd benderfynu a ddylid gweithredu’r cynigion.

(2)Os na fydd penderfyniad o dan is-adran (1) wedi ei wneud cyn diwedd 16 o wythnosau gan ddechrau ar ddiwedd y cyfnod gwrthwynebu, bernir bod y cynigydd wedi tynnu’r cynigion yn eu hôl.

(3)Cyn diwedd 7 niwrnod gan ddechrau ar ddiwrnod ei benderfyniad o dan is-adran (1), rhaid i’r cynigydd hysbysu’r canlynol am y penderfyniad—

(a)Gweinidogion Cymru;

(b)(ac eithrio os y cynigydd yw ef) yr awdurdod lleol sy’n cynnal, neu y cynigir ei fod yn cynnal, yr ysgol y mae’r cynigion yn ymwneud â hi;

(c)(ac eithrio os y cynigydd yw ef) corff llywodraethu (os oes un) yr ysgol y mae’r cynigion yn ymwneud â hi.

Gwybodaeth Cychwyn

I1A. 53 ddim mewn grym ar y Cydsyniad Brenhinol, gweler a. 100(4)

I2A. 53 mewn grym ar 1.10.2013 gan O.S. 2013/1800, ergl. 3(a) (ynghyd ag ergl. 4)