RHAN 3TREFNIADAETH YSGOLION

PENNOD 2CYNIGION TREFNIADAETH YSGOLION

Cymeradwyo cynigion a phenderfynu arnynt

54Eu hatgyfeirio i Weinidogion Cymru

(1)Mae’r adran hon yn gymwys os yw awdurdod lleol wedi—

(a)penderfynu cymeradwyo neu wrthod cynigion o dan adran 51(4), neu

(b)penderfynu o dan adran 53(1) i weithredu cynigion y gwnaed gwrthwynebiad iddynt yn unol ag adran 49 (ac nas tynnwyd yn ei ôl yn ysgrifenedig cyn diwedd 28 o ddiwrnodau gan ddechrau ar ddiwedd y cyfnod gwrthwynebu).

(2)Cyn diwedd 28 o ddiwrnodau gan ddechrau ar ddiwrnod penderfynu’r awdurdod lleol o dan adran 51(4) neu 53(1), caiff y canlynol atgyfeirio’r cynigion i Weinidogion Cymru—

(a)awdurdod lleol arall y mae’n debyg y bydd y cynigion yn effeithio arno;

(b)awdurdod lleol yn Lloegr y mae’n debyg y bydd y cynigion yn effeithio arno;

(c)y corff crefyddol priodol ar gyfer—

(i)yr ysgol y mae’r cynigion yn ymwneud â hi os yw’n ysgol sydd â chymeriad crefyddol, neu y bwriedir iddi fod yn ysgol o’r fath, neu

(ii)unrhyw ysgol arall sydd â chymeriad crefyddol ac y mae’n debyg y bydd y cynigion yn effeithio arni;

(d)os yw’r ysgol y mae’r cynigion yn ymwneud â hi yn ysgol sefydledig neu’n ysgol wirfoddol, corff llywodraethu’r ysgol;

(e)ymddiriedolaeth sy’n dal eiddo at ddibenion yr ysgol y mae’r cynigion yn ymwneud â hi;

(f)sefydliad o fewn y sector addysg bellach y mae’n debyg y bydd y cynigion yn effeithio arno.

(3)Cwestiwn i gael ei benderfynu gan Weinidogion Cymru yw a yw awdurdod, ysgol neu sefydliad yn debyg o gael ei effeithio gan y cynigion at ddiben is-adran (2).

(4)Rhaid i Weinidogion Cymru ystyried cynigion a atgyfeiriwyd iddynt o dan yr adran hon o’r newydd ac mae is-adrannau (5) i (8) o adran 50 yn gymwys fel petai angen eu cymeradwyaeth o dan yr adran honno.

(5)Ni chaniateir i gynigion a wneir o dan adran 43 neu 44 i derfynu ysgol sy’n ysgol fach (gweler adran 56) gael eu hatgyfeirio i Weinidogion Cymru o dan yr adran hon.

(6)Os yw’n ofynnol i Weinidogion Cymru ystyried cynigion a atgyfeiriwyd o dan yr adran hon, nid yw’r cynigion hynny i’w trin at ddibenion adran 55 neu 61 fel rhai a gymeradwywyd o dan adran 51 neu fel cynigion y mae’r cynigydd wedi penderfynu eu gweithredu o dan adran 53.

(7)Os yw Gweinidogion Cymru yn cymeradwyo cynigion yn unol â’r adran hon, mae’r cynigion i’w trin at ddibenion adran 55 fel petaent wedi eu cymeradwyo o dan adran 50.

(8)Os yw Gweinidogion Cymru yn gwrthod cynigion yn unol â’r adran hon, mae’r cynigion i’w trin at ddibenion paragraff 35(3)(e) o Atodlen 4 fel petaent wedi eu gwrthod o dan adran 50.