Deddf Safonau a Threfniadaeth Ysgolion (Cymru) 2013

57Cyfarwyddiadau i wneud cynigion i gywiro darpariaeth ormodol neu annigonolLL+C
This section has no associated Explanatory Notes

(1)Mae’r adran hon yn gymwys pan fo Gweinidogion Cymru o’r farn bod darpariaeth ormodol neu fod, neu ei bod yn debygol y bydd, darpariaeth annigonol ar gyfer addysg gynradd neu uwchradd mewn ysgolion a gynhelir—

(a)yn ardal awdurdod lleol, neu

(b)mewn rhan o’r ardal honno.

(2)Caiff Gweinidogion Cymru—

(a)cyfarwyddo’r awdurdod lleol i arfer ei bwerau i wneud cynigion i sefydlu, newid neu derfynu ysgolion, a

(b)cyfarwyddo corff llywodraethu ysgol sefydledig neu wirfoddol a gynhelir gan yr awdurdod i arfer ei bwerau i wneud cynigion i newid ei ysgol.

(3)Rhaid i gyfarwyddyd o dan is-adran (2)—

(a)ei gwneud yn ofynnol i’r cynigion gael eu cyhoeddi heb fod yn hwyrach na’r dyddiad a bennir yn y cyfarwyddyd,

(b)ei gwneud yn ofynnol i’r cynigion, wrth iddynt roi effaith i’r cyfarwyddyd, gymhwyso unrhyw egwyddorion a bennir ynddo, ac

(c)pan fo Gweinidogion Cymru o’r farn bod, neu ei bod yn debygol y bydd, darpariaeth annigonol, pennu’r nifer ychwanegol o ddisgyblion y mae lle i’w drefnu ar eu cyfer.

(4)Ni chaniateir i gyfarwyddyd o dan is-adran (2)(a) ei gwneud yn ofynnol i’r cynigion ymwneud ag ysgol a enwir.

Gwybodaeth Cychwyn

I1A. 57 ddim mewn grym ar y Cydsyniad Brenhinol, gweler a. 100(4)

I2A. 57 mewn grym ar 1.10.2013 gan O.S. 2013/1800, ergl. 3(b)