RHAN 3TREFNIADAETH YSGOLION

PENNOD 3RHESYMOLI LLEOEDD YSGOL

Y weithdrefn ar gyfer ymdrin â chynigion o dan adran 59

I1I261Ymchwiliad lleol i gynigion

1

Mae’r adran hon yn gymwys pan fo Gweinidogion Cymru wedi gwneud cynigion o dan adran 59 (ac eithrio cynigion a wnaed yn rhinwedd adran 62(1)) nad ydynt wedi eu tynnu’n ôl.

2

Os yw gwrthwynebiadau wedi eu gwneud yn unol ag adran 60(2), yna, oni fydd pob gwrthwynebiad sydd wedi ei wneud felly wedi ei dynnu’n ôl yn ysgrifenedig o fewn yr 28 o ddiwrnodau y cyfeiriwyd atynt yn yr adran honno, rhaid i Weinidogion Cymru beri bod ymchwiliad lleol yn cael ei gynnal.

3

Diben yr ymchwiliad lleol yw ystyried cynigion Gweinidogion Cymru, unrhyw gynigion eraill y mae Gweinidogion Cymru yn eu cyfeirio at yr ymchwiliad a’r gwrthwynebiadau a grybwyllwyd yn is-adran (2).

4

Mae cynigion a gyfeirir at ymchwiliad lleol o dan yr adran hon i’w penderfynu o dan adran 62 ac nid yw adrannau 50, 51, 53, 54, 70 a 73 yn gymwys iddynt.

5

Pan fo’n ofynnol i ymchwiliad lleol gael ei gynnal, rhaid i Weinidogion Cymru gyfeirio’r cynigion a restrir yn is-adran (6) i’r ymchwiliad os yw’r cynigion—

a

heb gael eu penderfynu cyn i drafodion yr ymchwiliad ddechrau, a

b

yn ymddangos i Weinidogion Cymru eu bod yn rhai sy’n gysylltiedig â’r cynigion a wnaed o dan adran 59 ac y mae’r ymchwiliad i’w gynnal mewn cysylltiad â hwy.

6

Y cynigion sydd i’w cyfeirio yw—

a

unrhyw gynigion eraill a gyhoeddir o dan adran 59 mewn perthynas ag ardal yr awdurdod lleol (ac sydd heb gael eu tynnu’n ôl);

b

unrhyw gynigion a wneir gan yr awdurdod hwnnw wrth arfer eu pwerau i wneud cynigion i sefydlu, newid neu derfynu ysgolion (ac sydd heb gael eu tynnu’n ôl);

c

unrhyw gynigion a wneir gan gorff llywodraethu ysgol sefydledig neu wirfoddol yn yr ardal wrth arfer ei bwerau i wneud cynigion i newid ei ysgol (a’r rheini’n gynigion sydd heb gael eu tynnu’n ôl);

d

unrhyw gynigion a wneir o dan adran 68 neu 71 (ac sydd heb gael eu tynnu’n ôl).

7

Os bydd Gweinidogion Cymru, cyn bod trafodion yr ymchwiliad yn dechrau, yn ffurfio barn y dylid gweithredu unrhyw gynigion, nid yw is-adran (5) yn ei gwneud yn ofynnol iddynt gyfeirio’r cynigion hynny i’r ymchwiliad oni fyddant yn ffurfio barn wahanol cyn bod—

a

trafodion yr ymchwiliad wedi eu cwblhau, neu

b

(os ydynt yn gynharach) y cynigion wedi eu penderfynu.

8

Nid yw’n agored i’r ymchwiliad gwestiynu’r egwyddorion a bennir yn y cyfarwyddyd o dan adran 57(2).

9

Mae cyfeiriadau yn yr adran hon at benderfynu cynigion yn cyfeirio at—

a

penderfyniad p’un ai i fabwysiadu neu i gymeradwyo’r cynigion o dan adran 50, 51, 62, 70 neu 73;

b

penderfyniad p’un ai i weithredu’r cynigion o dan adran 53 ai peidio;

c

penderfyniad p’un ai i gymeradwyo cynigion a atgyfeiriwyd i Weinidogion Cymru o dan adran 54 ai peidio.