xmlns:atom="http://www.w3.org/2005/Atom" xmlns:atom="http://www.w3.org/2005/Atom"

RHAN 3LL+CTREFNIADAETH YSGOLION

PENNOD 3LL+CRHESYMOLI LLEOEDD YSGOL

Y weithdrefn ar gyfer ymdrin â chynigion o dan adran 59LL+C

63Gweithredu cynigionLL+C

(1)Mae cynigion sydd wedi eu mabwysiadu neu eu cymeradwyo gan Weinidogion Cymru o dan adran 62 yn cael effaith fel petaent wedi eu cymeradwyo gan Weinidogion Cymru o dan adran 50 ar ôl iddynt gael eu gwneud—

(a)gan yr awdurdod lleol o dan ei bwerau i wneud cynigion i sefydlu, newid neu derfynu ysgolion, neu

(b)yn achos cynigion i newid ysgol sefydledig neu wirfoddol, gan y corff llywodraethu o dan ei bwerau i wneud cynigion i newid ei ysgol.

(2)Er gwaethaf unrhyw beth yn Rhan 1 o Atodlen 3 (cyfrifoldeb dros weithredu cynigion statudol), rhaid i’r awdurdod lleol sy’n cynnal yr ysgol dan sylw gwrdd â’r gost o weithredu cynigion sy’n cael eu mabwysiadu neu eu cymeradwyo o dan adran 62 ac sy’n cael effaith fel a grybwyllwyd yn is-adran (1)(b).

Gwybodaeth Cychwyn

I1A. 63 ddim mewn grym ar y Cydsyniad Brenhinol, gweler a. 100(4)

I2A. 63 mewn grym ar 1.10.2013 gan O.S. 2013/1800, ergl. 3(b)