xmlns:atom="http://www.w3.org/2005/Atom" xmlns:atom="http://www.w3.org/2005/Atom"

RHAN 3LL+CTREFNIADAETH YSGOLION

PENNOD 4LL+CDARPARIAETH RANBARTHOL AR GYFER ANGHENION [F1ADDYSGOL ARBENNIG] [F1DYSGU YCHWANEGOL]

Diwygiadau Testunol

F1Geiriau yn nheitl Rhn. 3 Pnd. 4 wedi eu hamnewid (1.9.2021 at ddibenion penodedig, 1.1.2022 at ddibenion penodedig, 1.9.2022 at ddibenion penodedig) gan Deddf Anghenion Dysgu Ychwanegol a’r Tribiwnlys Addysg (Cymru) 2018 (anaw 2), a. 100(3), Atod. 1 para. 22(3)(a); O.S. 2021/373, erglau. 3, 4, 6, 7 (fel y'u diwygiwyd gan O.S. 2021/938, ergl. 2); O.S. 2021/1243, ergl. 3 (ynghyd ag erglau. 4-23) (fel y'i diwygiwyd gan O.S. 2021/1428, ergl. 2); O.S. 2021/1244, ergl. 3 (ynghyd ag erglau. 4-21) (fel y'u diwygiwyd gan O.S. 2021/1428, ergl. 3); O.S. 2021/1245, erglau. 3, 4 (ynghyd ag ergl. 1(4)); O.S. 2022/891, ergl. 3 (ynghyd ag erglau. 4-25); O.S. 2022/892, erglau. 2, 3 (ynghyd ag erglau. 4-18); O.S. 2022/893, ergl. 4; O.S. 2022/894, ergl. 3; O.S. 2022/895, erglau. 3, 4; O.S. 2022/896, ergl. 3 (ynghyd ag erglau. 1(7), 4-22); O.S. 2022/897, ergl. 3 (ynghyd ag erglau. 1(8), 4-21); O.S. 2022/898, erglau. 2, 3

66Cyfarwyddiadau i wneud cynigion i sicrhau darpariaeth ranbartholLL+C

(1)Mae’r adran hon yn gymwys pan fo Gweinidogion Cymru o’r farn y byddai dau neu fwy o awdurdodau lleol yn gallu cyflawni eu swyddogaethau [F2addysg arbennig] [F2anghenion dysgu ychwanegol], mewn cysylltiad â phlant sy’n syrthio o fewn disgrifiad penodol, yn fwy effeithiol neu effeithlon os câi darpariaeth ranbarthol ei gwneud mewn perthynas ag ardaloedd yr awdurdodau hynny.

(2)Caiff Gweinidogion Cymru roi un neu fwy o’r cyfarwyddiadau a bennir yn is-adran (3) er mwyn sicrhau bod darpariaeth ranbarthol yn cael ei gwneud mewn perthynas â’r disgrifiad o blant o’r ardaloedd a bennir yn y cyfarwyddyd.

(3)Y cyfarwyddiadau yw—

(a)bod awdurdod lleol yn arfer ei bwerau i wneud cynigion i sefydlu, newid neu derfynu ysgolion;

(b)bod corff llywodraethu ysgol sefydledig neu wirfoddol yn arfer ei bwerau i wneud cynigion i newid ei ysgol;

(c)bod dau neu fwy o awdurdodau lleol yn gwneud trefniadau—

(i)y bydd darpariaeth ar gyfer addysg yn cael ei gwneud odanynt gan un o’r awdurdodau mewn cysylltiad â phersonau o ardal (neu ardaloedd) yr awdurdod arall (neu’r awdurdodau eraill), a

(ii)y bydd darpariaeth yn cael ei gwneud odanynt i benderfynu’r taliadau sydd i’w gwneud o dan y trefniadau mewn cysylltiad â darparu’r addysg honno;

(d)bod dau neu fwy o awdurdodau lleol yn gwneud trefniadau sy’n darparu bod un o’r awdurdodau hynny’n cyflenwi i’r llall (neu’r lleill) nwyddau neu wasanaethau sydd i’w pennu yn y trefniadau ar delerau (gan gynnwys telerau o ran talu) a fyddai’n cael eu pennu felly;

(e)bod awdurdod lleol a chyrff llywodraethu un neu fwy o ysgolion sefydledig neu wirfoddol yn gwneud trefniadau sy’n darparu bod yr awdurdod yn cyflenwi i’r cyrff llywodraethu nwyddau neu wasanaethau sydd i’w pennu yn y trefniadau, ar delerau (gan gynnwys telerau o ran talu) a fyddai’n cael eu pennu felly.

(4)Pan fo Gweinidogion Cymru yn rhoi cyfarwyddyd o dan is-adran (3)(c) a chyfarwyddyd o dan is-adran (3)(a) neu (3)(b), caniateir i’r taliadau y mae is-adran (3)(c) yn cyfeirio atynt gynnwys swm mewn cysylltiad â’r costau sy’n gysylltiedig â sefydlu, newid neu derfynu’r ysgol o dan sylw.

(5)Rhaid i gyfarwyddyd o dan is-adran (3)(a) neu (3)(b)—

(a)ei gwneud yn ofynnol i’r cynigion o dan sylw i gael eu cyhoeddi heb fod yn hwyrach na’r dyddiad a bennir yn y cyfarwyddyd, a

(b)ei gwneud yn ofynnol i’r corff sy’n gwneud y cynigion anfon copi o’r cynigion cyhoeddedig, ynghyd â gwybodaeth arall (o fath a bennir yn y cyfarwyddyd) mewn cysylltiad â’r cynigion hynny i Weinidogion Cymru.

Diwygiadau Testunol

F2Geiriau yn a. 66(1) wedi eu hamnewid (1.9.2021 at ddibenion penodedig, 1.1.2022 at ddibenion penodedig, 1.9.2022 at ddibenion penodedig) gan Deddf Anghenion Dysgu Ychwanegol a’r Tribiwnlys Addysg (Cymru) 2018 (anaw 2), a. 100(3), Atod. 1 para. 22(3)(d); O.S. 2021/373, erglau. 3, 4, 6, 7 (fel y'u diwygiwyd gan O.S. 2021/938, ergl. 2); O.S. 2021/1243, ergl. 3 (ynghyd ag erglau. 4-23) (fel y'i diwygiwyd gan O.S. 2021/1428, ergl. 2); O.S. 2021/1244, ergl. 3 (ynghyd ag erglau. 4-21) (fel y'u diwygiwyd gan O.S. 2021/1428, ergl. 3); O.S. 2021/1245, erglau. 3, 4 (ynghyd ag ergl. 1(4)); O.S. 2022/891, ergl. 3 (ynghyd ag erglau. 4-25); O.S. 2022/892, erglau. 2, 3 (ynghyd ag erglau. 4-18); O.S. 2022/893, ergl. 4; O.S. 2022/894, ergl. 3; O.S. 2022/895, erglau. 3, 4; O.S. 2022/896, ergl. 3 (ynghyd ag erglau. 1(7), 4-22); O.S. 2022/897, ergl. 3 (ynghyd ag erglau. 1(8), 4-21); O.S. 2022/898, erglau. 2, 3

Gwybodaeth Cychwyn

I1A. 66 ddim mewn grym ar y Cydsyniad Brenhinol, gweler a. 100(4)

I2A. 66 mewn grym ar 1.10.2013 gan O.S. 2013/1800, ergl. 3(c)