RHAN 3TREFNIADAETH YSGOLION
PENNOD 5CYNIGION I AILSTRWYTHURO ADDYSG CHWECHED DOSBARTH
Gweithredu cynigion ar gyfer ailstrwythuro addysg chweched dosbarth
74Y ffurf weithredu
1
Mae’r adran hon yn gymwys i gynigion sydd wedi eu mabwysiadu gan Weinidogion Cymru o dan adran 73.
2
Rhaid i’r cynigion (yn ddarostyngedig i ddarpariaethau canlynol yr adran hon) gael eu gweithredu ar y ffurf y cawsant eu mabwysiadu.
3
Ar gais corff penodedig, caiff Gweinidogion Cymru—
a
addasu cynigion sydd wedi eu mabwysiadu o dan adran 73 ar ôl ymgynghori â’r cyrff penodedig, a
b
pan fo wedi ei datgan bod mabwysiad y cynigion yn dod yn weithredol yn ddarostyngedig i ddigwyddiad penodedig, bennu dyddiad diweddarach erbyn pryd y bydd yn rhaid i’r digwyddiad hwnnw ddigwydd.
4
Caiff Gweinidogion Cymru benderfynu nad yw is-adran (2) yn gymwys i’r cynigion os ydynt wedi eu bodloni, ar ôl ymgynghori â’r cyrff penodedig—
a
y byddai gweithredu’r cynigion yn afresymol o anodd, neu
b
bod yr amgylchiadau wedi newid cymaint ers i’r cynigion gael eu mabwysiadu y byddai’n amhriodol gweithredu’r cynigion.
5
“Corff penodedig” yw pob un o’r canlynol at ddibenion is-adrannau (3) a (4)—
a
corff llywodraethu’r ysgol y mae’r cynigion yn ymwneud â hi;
b
yn achos cynnig i sefydlu ysgol newydd, y corff llywodraethu dros dro a gyfansoddwyd yn unol â threfniadau a wnaed o dan adran 34 o Ddeddf Addysg 2002;
c
yr awdurdod lleol sy’n cynnal, neu y cynigir y bydd yn cynnal, yr ysgol y mae’r cynigion yn ymwneud â hi;
d
pan fo’r ysgol y mae’r cynigion yn ymwneud â hi yn ysgol arbennig gymunedol, pob awdurdod lleol sy’n cynnal datganiad o anghenion addysgol arbennig o dan Ran 4 o Ddeddf Addysg 1996 mewn cysylltiad â disgybl cofrestredig yn yr ysgol.