Deddf Safonau a Threfniadaeth Ysgolion (Cymru) 2013

76Darpariaeth bellach o ran gweithreduLL+C
This section has no associated Explanatory Notes

(1)Pan fo’n ofynnol i awdurdod lleol yn rhinwedd adran 75 ddarparu safle ar gyfer ysgol sefydledig neu ysgol wirfoddol a reolir, mae paragraff 7 o Atodlen 3 (darparu safle ac adeiladau i ysgol sefydledig neu ysgol wirfoddol a reolir) yn gymwys fel y bo’n gymwys yn yr amgylchiadau a grybwyllir yn is-baragraff (1) o’r paragraff hwnnw.

(2)Mae paragraff 8 o Atodlen 3 (grantiau mewn cysylltiad â gwariant penodol ynghylch ysgol wirfoddol a gynorthwyir) yn gymwys mewn perthynas â’r rhwymedigaeth o dan adran 75(2)(b)(ii) fel y bo’n gymwys mewn perthynas â’r rhwymedigaethau y cyfeirir atynt ym mharagraff 8(1)(a) o’r Atodlen honno.

(3)Mae paragraff 9 o Atodlen 3 (cymorth gan awdurdod lleol mewn cysylltiad ag ysgol wirfoddol a gynorthwyir) yn gymwys mewn perthynas â rhwymedigaethau a osodir ar gorff llywodraethu ysgol wirfoddol a gynorthwyir o dan adran 75(2)(b)(ii) fel y bo’n gymwys mewn perthynas â’r rhwymedigaethau y cyfeirir atynt yn y paragraff 9 hwnnw, ac mae paragraff 11 o’r Atodlen honno (dyletswydd ar awdurdod lleol i drosglwyddo buddiant mewn mangre a ddarperir o dan baragraff 9 neu 10) yn gymwys yn unol â hynny.

Gwybodaeth Cychwyn

I1A. 76 ddim mewn grym ar y Cydsyniad Brenhinol, gweler a. 100(4)

I2A. 76 mewn grym ar 1.10.2013 gan O.S. 2013/1800, ergl. 3(d)