RHAN 3TREFNIADAETH YSGOLION

PENNOD 6DARPARIAETHAU AMRYWIOL AC ATODOL

80Hysbysiad gan gorff llywodraethu am derfynu ysgol sefydledig neu ysgol wirfoddol

1

Caiff corff llywodraethu ysgol sefydledig neu ysgol wirfoddol derfynu’r ysgol drwy gyflwyno i Weinidogion Cymru a’r awdurdod lleol sy’n cynnal yr ysgol hysbysiad sy’n rhoi dwy flynedd o rybudd o’i fwriad i wneud hynny.

2

Mae’n ofynnol cael cydsyniad Gweinidogion Cymru cyn cyflwyno hysbysiad o dan yr adran hon os aed i wariant ar fangre’r ysgol (ac eithrio mewn cysylltiad ag atgyweiriadau)—

a

gan Weinidogion Cymru, neu

b

gan unrhyw awdurdod lleol.

3

Rhaid i’r corff llywodraethu ymgynghori â Gweinidogion Cymru cyn cyflwyno hysbysiad o dan yr adran hon os byddai terfynu’r ysgol yn effeithio ar y cyfleusterau ar gyfer addysg lawnamser sy’n addas at anghenion personau dros oedran ysgol gorfodol nad ydynt wedi cyrraedd 19 oed.

4

Os yw’r corff llywodraethu, tra bo hysbysiad o dan yr adran hon mewn grym, yn hysbysu’r awdurdod lleol ei fod yn anabl neu’n anfodlon rhedeg yr ysgol hyd nes y bydd yr hysbysiad yn dirwyn i ben, mae’r awdurdod—

a

yn cael rhedeg yr ysgol am y cyfan neu ran o gyfnod yr hysbysiad nad yw wedi dirwyn i ben fel petai’n ysgol gymunedol, a

b

yn meddu ar hawl i ddefnyddio mangre’r ysgol yn ddi-dâl at y diben hwnnw.

5

Tra bo’r ysgol yn cael ei rhedeg felly—

a

rhaid i’r awdurdod gadw mangre’r ysgol mewn cyflwr da, a

b

mae unrhyw fuddiant yn y fangre a ddelir at ddibenion yr ysgol i’w drin, at bob diben sy’n ymwneud â chyflwr y fangre, ei meddiannu neu ei defnyddio, neu wneud newidiadau iddi, fel buddiant sydd wedi ei freinio yn yr awdurdod.

6

Er gwaethaf is-adran (5) caiff y corff llywodraethu ddefnyddio’r fangre, neu unrhyw ran ohoni, pan nad oes ei hangen at ddibenion yr ysgol i’r un graddau â phetai wedi parhau i redeg yr ysgol yn ystod cyfnod yr hysbysiad nad oedd wedi dirwyn i ben.

7

Ni chaniateir i hysbysiad o dan is-adran (1) gael ei dynnu’n ôl heb gydsyniad yr awdurdod lleol.

8

Os yw ysgol sefydledig neu ysgol wirfoddol wedi ei therfynu o dan yr adran hon, mae dyletswydd yr awdurdod lleol i gynnal yr ysgol fel ysgol sefydledig neu ysgol wirfoddol yn peidio.

9

Nid oes dim yn adran 43 yn gymwys mewn perthynas â therfynu ysgol sefydledig neu ysgol wirfoddol o dan yr adran hon.

10

Mae is-adran (11) yn gymwys—

a

pan fo tir sydd wedi ei feddiannu gan yr ysgol yn cael ei ddal gan unrhyw ymddiriedolwyr at ddibenion yr ysgol,

b

pan fo’r ymddiriedolwyr (a hwythau â’r hawl i wneud hynny) yn bwriadu rhoi hysbysiad i gorff llywodraethu’r ysgol i derfynu meddiannaeth yr ysgol ar y tir hwnnw, ac

c

pan fyddai terfynu meddiannaeth yr ysgol ar y tir hwnnw yn arwain at y canlyniad nad oedd yn rhesymol ymarferol i’r ysgol barhau i gael ei rhedeg ar ei safle presennol.

11

Rhaid i’r hysbysiad y mae’r ymddiriedolwyr yn ei roi i’r corff llywodraethu i derfynu meddiannaeth yr ysgol ar y tir gael ei roi o leiaf ddwy flynedd ymlaen llaw; ond os, yn ystod y ddeuddeng mis cyntaf o gyfnod yr hysbysiad hwnnw, yw’r corff llywodraethu yn rhoi hysbysiad o dan is-adran (1), nid yw hysbysiad yr ymddiriedolwyr yn cael yr effaith o derfynu meddiannaeth yr ysgol ar y tir hyd nes i hysbysiad y corff llywodraethu ddod i ben.

12

Rhaid i gopi o hysbysiad yr ymddiriedolwyr hefyd gael ei roi i Weinidogion Cymru a’r awdurdod lleol adeg rhoi’r hysbysiad i’r corff llywodraethu.

13

Pan fo ymddiriedolwyr yn rhoi, yr un (neu i raddau helaeth yr un) pryd, hysbysiadau sy’n honni terfynu meddiannaeth ysgol sefydledig neu ysgol wirfoddol ar ddau neu fwy o ddarnau o dir sy’n cael eu dal gan yr ymddiriedolwyr at ddibenion yr ysgol, yna er mwyn penderfynu a yw is-adran (10)(c) yn gymwys mewn perthynas ag unrhyw un neu rai o’r darnau hynny o dir, caniateir i ystyriaeth gael ei rhoi i effaith gyfun terfynu meddiannaeth yr ysgol ar y ddau neu’r cyfan ohonynt.

14

Os bydd cwestiwn yn codi ynghylch a fyddai terfynu meddiannaeth ysgol ar unrhyw dir yn arwain at y canlyniad a grybwyllwyd yn is-adran (10)(c) (gan gynnwys cwestiwn ynghylch a yw is-adran (13) yn gymwys mewn unrhyw amgylchiadau penodol), mae i’w benderfynu gan Weinidogion Cymru.