(1)Caiff Gweinidogion Cymru wneud rheoliadau ynghylch cynlluniau strategol Cymraeg mewn addysg.
(2)Caiff rheoliadau wneud darpariaeth bellach am y materion canlynol (ymhlith pethau eraill)—
(a)ffurf a chynnwys cynllun;
(b)amseriad a hyd cynllun;
(c)cadw golwg ar gynllun a’i ddiwygio;
(d)ymgynghori yn ystod y broses o lunio cynllun a’i ddiwygio;
(e)cyflwyno cynllun i gael ei gymeradwyo;
(f)pryd a sut i gyhoeddi cynllun.
(3)Caiff y rheoliadau wneud darpariaeth i alluogi dau neu fwy o awdurdodau lleol i lunio cydgynllun, a chaiff unrhyw reoliadau o’r fath addasu unrhyw ddarpariaeth yn y Rhan hon o ran y modd y mae’n gymwys i gydgynlluniau.
(4)Rhaid i awdurdod lleol, wrth arfer ei swyddogaethau o dan y Rhan hon, roi sylw i unrhyw ganllawiau a ddyroddir gan Weinidogion Cymru.
Gwybodaeth Cychwyn
I1A. 87 ddim mewn grym ar y Cydsyniad Brenhinol, gweler a. 100(4)
I2A. 87 mewn grym ar 3.12.2013 gan O.S. 2013/3024, ergl. 2