(1)Rhaid i awdurdod lleol ddarparu brecwast ar bob diwrnod ysgol i ddisgyblion mewn ysgol gynradd a gynhelir gan yr awdurdod—
(a)os yw corff llywodraethu’r ysgol wedi ysgrifennu at yr awdurdod i ofyn bod brecwast yn cael ei ddarparu, a
(b)os yw 90 o ddiwrnodau wedi mynd heibio, gan ddechrau ar y diwrnod ar ôl y diwrnod y cafwyd y cais.
(2)Nid yw’r ddyletswydd yn is-adran (1) yn gymwys (neu y mae’n peidio â bod yn gymwys) mewn perthynas â chais gan gorff llywodraethu os yw’r naill neu’r llall o’r paragraffau canlynol yn gymwys—
(a)bod y corff llywodraethu wedi ysgrifennu at yr awdurdod i ofyn iddo roi’r gorau i ddarparu brecwast;
(b)y byddai’n afresymol darparu’r brecwast ac o ganlyniad bod yr awdurdod lleol wedi hysbysu’r corff llywodraethu’n ysgrifenedig—
(i)nad yw’n mynd i ddarparu brecwast, neu
(ii)ei fod yn mynd i roi’r gorau i ddarparu brecwast.
(3)Os yw’r ddyletswydd o dan is-adran (1) yn gymwys, rhaid i’r awdurdod lleol ddarparu brecwast i bob disgybl sy’n gofyn i’r awdurdod amdano; at y diben hwn, caniateir i’r cais gael ei wneud gan neu ar ran y disgybl.
(4)O ran brecwast a ddarperir gan awdurdod lleol o dan yr adran hon—
(a)caiff fod ar unrhyw ffurf y gwêl yr awdurdod yn dda, yn ddarostyngedig i unrhyw reoliadau a wneir o dan adran 4 o Fesur Bwyta’n Iach mewn Ysgolion (Cymru) 2009 (gofynion ynglyn â bwyd a diod a ddarperir ar fangre ysgol);
(b)rhaid ei ddarparu am ddim;
(c)rhaid iddo fod ar gael ar fangre’r ysgol;
(d)rhaid iddo fod ar gael cyn dechrau pob diwrnod ysgol, ac eithrio yn achos ysgol arbennig gymunedol lle y caniateir i frecwast fod ar gael cyn neu ar ddechrau pob diwrnod ysgol.
(5)Wrth arfer ei swyddogaethau, rhaid i awdurdod lleol neu gorff llywodraethu ysgol gynradd a gynhelir gan awdurdod lleol roi sylw i unrhyw ganllawiau a roddir gan Weinidogion Cymru am ddarparu brecwast i ddisgyblion.