RHAN 6CYFFREDINOL

I1I2I398Dehongli’n gyffredinol a mynegai o ymadroddion sydd wedi eu diffinio

1

Mae darpariaethau’r Ddeddf hon a darpariaethau Ddeddf Addysg 1996 i’w darllen fel petai nhw i gyd wedi eu cynnwys yn Neddf Addysg 1996.

2

Ond pan roddir i ymadrodd at ddibenion unrhyw ddarpariaeth yn y Ddeddf hon ystyr sy’n wahanol i’r un a roddwyd iddo at ddibenion Deddf Addysg 1996, mae’r ystyr a roddir at ddibenion y ddarpariaeth honno i fod yn gymwys yn lle’r un a roddwyd at ddibenion Deddf Addysg 1996.

3

Yn y Ddeddf hon—

  • mae i “awdurdod esgobaethol priodol” yr un ystyr ag (“appropriate diocesan authority”) yn adran 142(1) o Ddeddf Safonau a Fframwaith Ysgolion 1998;

  • ystyr “awdurdod lleol” (“local authority”) (ac eithrio yn adran 54(2)(b)) yw cyngor sir neu gyngor bwrdeistref sirol yng Nghymru;

  • mae “awdurdod ysgol” (“school authority”) wedi ei ddiffinio yn adran 32 at ddibenion Pennod 3 o Ran 2;

  • ystyr “y Cod” (“the Code”) ym Mhennod 2 o Ran 3 yw’r cod ar drefniadaeth ysgolion a ddyroddir o dan adran 38(1);

  • ystyr “corff crefyddol priodol“ (“appropriate religious body“)—

    1. a

      yn achos un o ysgolion yr Eglwys yng Nghymru neu un o ysgolion yr Eglwys Gatholig Rufeinig, neu ysgol arfaethedig o’r fath, yw’r awdurdod esgobaethol priodol, a

    2. b

      yn achos ysgolion eraill neu ysgolion arfaethedig eraill, yw’r corff sy’n cynrychioli’r crefydd neu’r enwad crefyddol a ddatganwyd, neu y bwriedir iddo gael ei ddatgan, mewn perthynas â’r ysgol mewn gorchymyn o dan adran F168A o Ddeddf Safonau a Fframwaith Ysgolion 1998;

  • mae i “corff sefydledig” yr un ystyr â (“foundation body”) yn adran 21(4)(a) o Ddeddf Safonau a Fframwaith Ysgolion 1998;

  • mae “cyfnod gwrthwynebu” (“objection period”) wedi ei ddiffinio yn adran 49(2) at ddibenion Pennod 2 o Ran 3;

  • mae “cynigydd” (“proposer”) wedi ei ddiffinio yn adran 56 at ddibenion Pennod 2 o Ran 3;

  • mae “darpariaeth ranbarthol” (“regional provision”) wedi ei diffinio yn adran 64 at ddibenion Pennod 4 o Ran 3;

  • mae “darparu” (“provide”) wedi ei ddiffinio yn adran 90 at ddibenion adrannau 88 a 89;

  • mae “disgybl” (“pupil”) wedi ei ddiffinio yn adran 90 at ddibenion adrannau 88 a 89;

  • ystyr “llywodraethwr sefydledig” (“foundation governor”), mewn perthynas ag ysgol sefydledig neu ysgol wirfoddol, yw person a benodwyd yn llywodraethwr sefydledig yn unol â rheoliadau o dan adran 19 o Ddeddf Addysg 2002;

  • ystyr “newid rheoleiddiedig” (“regulated alteration”) ym Mhennod 2 o Ran 3 yw newid a ddisgrifir yn Atodlen 2;

  • mae “pwerau i wneud cynigion i newid ei ysgol” (“powers to make proposals to alter its school”) wedi eu diffinio yn adran 83 at ddibenion Rhan 3;

  • mae “pwerau i wneud cynigion i sefydlu, newid neu derfynu ysgolion” (“powers to make proposals to establish, alter or discontinue schools”) wedi eu diffinio yn adran 83 at ddibenion Rhan 3;

  • ystyr “rhagnodedig” (“prescribed”) yw wedi ei ragnodi drwy reoliadau;

  • ystyr “rheoliadau” (“regulations”) yw rheoliadau a wneir gan Weinidogion Cymru;

  • mae F3“swyddogaethau addysg arbennig” (“special education functions”)F3“swyddogaethau anghenion dysgu ychwanegol” (“additional learning needs functions”) wedi eu diffinio yn adran 64 at ddibenion Pennod 4 o Ran 3;

  • mae i “un o ysgolion yr Eglwys Gatholig Rufeinig” yr un ystyr â (“Roman Catholic Church school”) yn adran 142(1) o Ddeddf Safonau a Fframwaith Ysgolion 1998;

  • mae i “un o ysgolion yr Eglwys yng Nghymru” yr un ystyr â (“Church in Wales school”) yn adran 142(1) o Ddeddf Safonau a Fframwaith Ysgolion 1998;

  • ystyr “ysgol a gynhelir” (“maintained school”) yw ysgol yng Nghymru sy’n ysgol gymunedol, sefydledig neu wirfoddol, yn ysgol arbennig gymunedol neu’n ysgol feithrin a gynhelir;

  • mae “ysgol fach” (“small school”) wedi ei diffinio yn adran 56 at ddibenion Pennod 2 o Ran 3;

  • mae “ysgol gynradd” (“primary school”) wedi ei diffinio yn adran 90 at ddibenion adrannau 88 a 89.

4

Ar gyfer cyfeiriadau yn Rhan 3 at—

a

terfynu ysgol a gynhelir, gweler adran 83;

b

categori ysgol, gweler adran 83.

5

Mae cyfeiriad yn y Ddeddf hon at ysgol â chymeriad crefyddol yn cyfeirio at ysgol sydd wedi ei dynodi’n un sydd â chymeriad o’r fath drwy orchymyn o dan adran F268A o Ddeddf Safonau a Fframwaith Ysgolion 1998.