(1)Mae darpariaethau’r Ddeddf hon a darpariaethau Ddeddf Addysg 1996 i’w darllen fel petai nhw i gyd wedi eu cynnwys yn Neddf Addysg 1996.
(2)Ond pan roddir i ymadrodd at ddibenion unrhyw ddarpariaeth yn y Ddeddf hon ystyr sy’n wahanol i’r un a roddwyd iddo at ddibenion Deddf Addysg 1996, mae’r ystyr a roddir at ddibenion y ddarpariaeth honno i fod yn gymwys yn lle’r un a roddwyd at ddibenion Deddf Addysg 1996.
(3)Yn y Ddeddf hon—
mae i “awdurdod esgobaethol priodol” yr un ystyr ag (“appropriate diocesan authority”) yn adran 142(1) o Ddeddf Safonau a Fframwaith Ysgolion 1998;
ystyr “awdurdod lleol” (“local authority”) (ac eithrio yn adran 54(2)(b)) yw cyngor sir neu gyngor bwrdeistref sirol yng Nghymru;
mae “awdurdod ysgol” (“school authority”) wedi ei ddiffinio yn adran 32 at ddibenion Pennod 3 o Ran 2;
ystyr “y Cod” (“the Code”) ym Mhennod 2 o Ran 3 yw’r cod ar drefniadaeth ysgolion a ddyroddir o dan adran 38(1);
ystyr “corff crefyddol priodol“ (“appropriate religious body“)—
yn achos un o ysgolion yr Eglwys yng Nghymru neu un o ysgolion yr Eglwys Gatholig Rufeinig, neu ysgol arfaethedig o’r fath, yw’r awdurdod esgobaethol priodol, a
yn achos ysgolion eraill neu ysgolion arfaethedig eraill, yw’r corff sy’n cynrychioli’r crefydd neu’r enwad crefyddol a ddatganwyd, neu y bwriedir iddo gael ei ddatgan, mewn perthynas â’r ysgol mewn gorchymyn o dan adran [F168A] o Ddeddf Safonau a Fframwaith Ysgolion 1998;
mae i “corff sefydledig” yr un ystyr â (“foundation body”) yn adran 21(4)(a) o Ddeddf Safonau a Fframwaith Ysgolion 1998;
mae “cyfnod gwrthwynebu” (“objection period”) wedi ei ddiffinio yn adran 49(2) at ddibenion Pennod 2 o Ran 3;
mae “cynigydd” (“proposer”) wedi ei ddiffinio yn adran 56 at ddibenion Pennod 2 o Ran 3;
mae “darpariaeth ranbarthol” (“regional provision”) wedi ei diffinio yn adran 64 at ddibenion Pennod 4 o Ran 3;
mae “darparu” (“provide”) wedi ei ddiffinio yn adran 90 at ddibenion adrannau 88 a 89;
mae “disgybl” (“pupil”) wedi ei ddiffinio yn adran 90 at ddibenion adrannau 88 a 89;
ystyr “llywodraethwr sefydledig” (“foundation governor”), mewn perthynas ag ysgol sefydledig neu ysgol wirfoddol, yw person a benodwyd yn llywodraethwr sefydledig yn unol â rheoliadau o dan adran 19 o Ddeddf Addysg 2002;
ystyr “newid rheoleiddiedig” (“regulated alteration”) ym Mhennod 2 o Ran 3 yw newid a ddisgrifir yn Atodlen 2;
mae “pwerau i wneud cynigion i newid ei ysgol” (“powers to make proposals to alter its school”) wedi eu diffinio yn adran 83 at ddibenion Rhan 3;
mae “pwerau i wneud cynigion i sefydlu, newid neu derfynu ysgolion” (“powers to make proposals to establish, alter or discontinue schools”) wedi eu diffinio yn adran 83 at ddibenion Rhan 3;
ystyr “rhagnodedig” (“prescribed”) yw wedi ei ragnodi drwy reoliadau;
ystyr “rheoliadau” (“regulations”) yw rheoliadau a wneir gan Weinidogion Cymru;
mae [F2“swyddogaethau addysg arbennig” (“special education functions”)] [F2“swyddogaethau anghenion dysgu ychwanegol” (“additional learning needs functions”)] wedi eu diffinio yn adran 64 at ddibenion Pennod 4 o Ran 3;
mae i “un o ysgolion yr Eglwys Gatholig Rufeinig” yr un ystyr â (“Roman Catholic Church school”) yn adran 142(1) o Ddeddf Safonau a Fframwaith Ysgolion 1998;
mae i “un o ysgolion yr Eglwys yng Nghymru” yr un ystyr â (“Church in Wales school”) yn adran 142(1) o Ddeddf Safonau a Fframwaith Ysgolion 1998;
ystyr “ysgol a gynhelir” (“maintained school”) yw ysgol yng Nghymru sy’n ysgol gymunedol, sefydledig neu wirfoddol, yn ysgol arbennig gymunedol neu’n ysgol feithrin a gynhelir;
mae “ysgol fach” (“small school”) wedi ei diffinio yn adran 56 at ddibenion Pennod 2 o Ran 3;
mae “ysgol gynradd” (“primary school”) wedi ei diffinio yn adran 90 at ddibenion adrannau 88 a 89.
(4)Ar gyfer cyfeiriadau yn Rhan 3 at—
(a)terfynu ysgol a gynhelir, gweler adran 83;
(b)categori ysgol, gweler adran 83.
(5)Mae cyfeiriad yn y Ddeddf hon at ysgol â chymeriad crefyddol yn cyfeirio at ysgol sydd wedi ei dynodi’n un sydd â chymeriad o’r fath drwy orchymyn o dan adran [F368A] o Ddeddf Safonau a Fframwaith Ysgolion 1998.
Diwygiadau Testunol
F1Gair yn a. 98(3) wedi ei amnewid (30.4.2021) gan Deddf Cwricwlwm ac Asesu (Cymru) 2021 (asc 4), a. 84(1), Atod. 2 para. 69(a) (ynghyd â arbedion a darpariaethau trosiannol yn O.S. 2022/111, rhlau. 1, 3)
F2Geiriau yn a. 98(3) wedi eu hamnewid (1.9.2021 at ddibenion penodedig, 1.1.2022 at ddibenion penodedig, 1.9.2022 at ddibenion penodedig) gan Deddf Anghenion Dysgu Ychwanegol a’r Tribiwnlys Addysg (Cymru) 2018 (anaw 2), a. 100(3), Atod. 1 para. 22(5); O.S. 2021/373, erglau. 3, 4, 6, 7 (fel y'u diwygiwyd gan O.S. 2021/938, ergl. 2); O.S. 2021/1243, ergl. 3 (ynghyd ag erglau. 4-23) (fel y'i diwygiwyd gan O.S. 2021/1428, ergl. 2); O.S. 2021/1244, ergl. 3 (ynghyd ag erglau. 4-21) (fel y'u diwygiwyd gan O.S. 2021/1428, ergl. 3); O.S. 2021/1245, erglau. 3, 4 (ynghyd ag ergl. 1(4)); O.S. 2022/891, ergl. 3 (ynghyd ag erglau. 4-25); O.S. 2022/892, erglau. 2, 3 (ynghyd ag erglau. 4-18); O.S. 2022/893, ergl. 4; O.S. 2022/894, ergl. 3; O.S. 2022/895, erglau. 3, 4; O.S. 2022/896, ergl. 3 (ynghyd ag erglau. 1(7), 4-22); O.S. 2022/897, ergl. 3 (ynghyd ag erglau. 1(8), 4-21); O.S. 2022/898, erglau. 2, 3
F3Gair yn a. 98(5) wedi ei amnewid (30.4.2021) gan Deddf Cwricwlwm ac Asesu (Cymru) 2021 (asc 4), a. 84(1), Atod. 2 para. 69(b) (ynghyd â arbedion a darpariaethau trosiannol yn O.S. 2022/111, rhlau. 1, 3)
Gwybodaeth Cychwyn
I1A. 98 ddim mewn grym ar y Cydsyniad Brenhinol, gweler a. 100(4)
I2A. 98 mewn grym ar 26.4.2013 at ddibenion penodedig gan O.S. 2013/1000, ergl. 2(d)
I3A. 98 mewn grym ar 4.5.2013 i'r graddau nad yw eisoes mewn grym gan O.S. 2013/1000, ergl. 3(b)