Deddf Archwilio Cyhoeddus (Cymru) 2013

2013 dccc 3

Deddf gan Gynulliad Cenedlaethol Cymru i wneud darpariaeth i ddiwygio trefniadau archwilio yng Nghymru; i ragnodi y bydd swydd Archwilydd Cyffredinol Cymru yn parhau, ac i greu corff newydd o’r enw Swyddfa Archwilio Cymru; i ddarparu mai Archwilydd Cyffredinol Cymru fydd yn archwilio cyrff llywodraeth leol yng Nghymru; ac at ddibenion cysylltiedig.

[29 Ebrill 2013]

Gan ei fod wedi ei basio gan Gynulliad Cenedlaethol Cymru ac wedi derbyn cydsyniad Ei Mawrhydi, deddfir fel a ganlyn: