Deddf Archwilio Cyhoeddus (Cymru) 2013

PENNOD 2LL+CSWYDDOGAETHAU’R ARCHWILYDD CYFFREDINOL

Darpariaethau cyffredinol ynglŷn ag arfer swyddogaethau’r Archwilydd Cyffredinol etcLL+C

8Sut y mae swyddogaethau i gael eu harferLL+C

(1)Mae gan yr Archwilydd Cyffredinol ddisgresiwn llwyr o ran y modd y mae swyddogaethau’r swydd honno i gael eu harfer ac nid yw’n ddarostyngedig i gyfarwyddyd na rheolaeth y Cynulliad Cenedlaethol na Llywodraeth Cymru.

(2)Ond mae’r disgresiwn hwn yn ddarostyngedig i is-adran (3).

(3)Rhaid i’r Archwilydd Cyffredinol—

(a)anelu at gyflawni ei swyddogaethau yn effeithlon ac yn gosteffeithiol;

(b)rhoi sylw, fel y mae’n ystyried yn briodol, i’r safonau a’r egwyddorion y disgwylir i ddarparwr arbenigol proffesiynol mewn cyfrifyddiaeth neu wasanaethau archwilio eu dilyn;

(c)rhoi sylw i gyngor a roddir iddo gan SAC (gweler adran 17(3)).

Gwybodaeth Cychwyn

I1A. 8 ddim mewn grym ar y Cydsyniad Brenhinol, gweler a. 35(2)

I2A. 8 mewn grym ar 4.7.2013 at ddibenion penodedig gan O.S. 2013/1466, ergl. 2(b)

I3A. 8 mewn grym ar 1.4.2014 i'r graddau nad yw eisoes mewn grym gan O.S. 2013/1466, ergl. 3(1)

9Pwerau atodolLL+C

(1)Caiff yr Archwilydd Cyffredinol wneud unrhyw beth a fwriedir i hwyluso arfer unrhyw un neu ragor o’i swyddogaethau, neu sy’n ffafriol i’w harfer neu’n gysylltiedig â’i harfer neu â’u harfer.

(2)Ond ni chaiff yr Archwilydd Cyffredinol wneud unrhyw beth sydd yn, neu a allai ddod yn, gyfrifoldeb i SAC, yn rhinwedd paragraffau (a) i (c) o adran 21(2) (darparu adnoddau ar gyfer arfer swyddogaethau’r Archwilydd Cyffredinol).

Gwybodaeth Cychwyn

I4A. 9 ddim mewn grym ar y Cydsyniad Brenhinol, gweler a. 35(2)

I5A. 9 mewn grym ar 1.4.2014 gan O.S. 2013/1466, ergl. 3(1)

10Cod ymarfer archwilioLL+C

(1)Rhaid i’r Archwilydd Cyffredinol ddyroddi cod ymarfer archwilio sy’n rhagnodi’r modd y mae swyddogaethau Archwilydd Cyffredinol a bennir yn is-adran (2) i’w cyflawni.

(2)Dyma’r swyddogaethau—

(a)cynnal ymchwiliad i unrhyw gyfrifon neu ddatganiadau o gyfrifon sydd yn agored i’r Archwilydd Cyffredinol ymchwilio iddynt yn unol â darpariaeth a wneir drwy ddeddfiad neu yn rhinwedd deddfiad;

(b)cynnal neu hybu astudiaethau neu ymchwiliadau gwerth am arian neu ymgymryd â hwy, yn unol â darpariaeth a wneir drwy ddeddfiad neu yn rhinwedd deddfiad;

(c)y rhai hynny sydd wedi eu cynnwys yn y darpariaethau canlynol o Ddeddf Llywodraeth Cymru 1998, neu sydd wedi eu trosglwyddo i’r Archwilydd Cyffredinol odanynt—

(i)adran 145A(2) (ymgymryd ag astudiaethau eraill, neu hybu astudiaethau eraill, sy’n ymwneud â darparu gwasanaethau gan gyrff penodol);

(ii)adran 145C(8) (datgelu gwybodaeth i Weinidogion Cymru a gafwyd yn ystod astudiaeth mewn perthynas â landlord cymdeithasol cofrestredig);

(iii)adran 145D (darparu cyngor a chymorth i landlord cymdeithasol cofrestredig);

(iv)adran 146 (trosglwyddo swyddogaethau’r Rheolydd ac Archwilydd Cyffredinol sy’n ymwneud â chyrff penodol i’r Archwilydd Cyffredinol);

(v)adran 146A (trosglwyddo etc swyddogaethau goruchwylio Gweinidogion Cymru sy’n ymwneud â chyrff penodol i’r Archwilydd Cyffredinol);

(vi)adran 147 (trosglwyddo swyddogaethau’r Rheolydd ac Archwilydd Cyffredinol sy’n ymwneud ag Asiantaeth yr Amgylchedd i’r Archwilydd Cyffredinol);

(d)y rhai hynny sydd wedi eu cynnwys yn y darpariaethau canlynol o Ddeddf Archwilio Cyhoeddus (Cymru) 2004—

(i)Rhan 2 (archwilio cyrff llywodraeth leol yng Nghymru);

(ii)adran 45 (cynnal, neu gynorthwyo’r Ysgrifennydd Gwladol i gynnal, astudiaethau gweinyddu budd-dal);

(iii)adran 51 (cyfeirio materion sy’n ymwneud â nawdd cymdeithasol at yr Ysgrifennydd Gwladol);

(e)y rhai hynny sydd wedi eu cynnwys yn y darpariaethau canlynol o Atodlen 8 i Ddeddf Llywodraeth Cymru 2006—

(i)paragraff 17 (mynediad at ddogfennau);

(ii)paragraff 20 (ardystio hawliadau, ffurflenni etc ar gais corff).

(3)Rhaid i’r Archwilydd Cyffredinol gydymffurfio â’r cod.

(4)Rhaid i’r cod ymgorffori’r hyn yr ymddengys i’r Archwilydd Cyffredinol yn arfer proffesiynol gorau o ran y safonau, gweithdrefnau a’r technegau sydd i’w mabwysiadu wrth gyflawni swyddogaethau o’r math a bennir yn is-adran (2).

(5)Caiff y cod wneud darpariaeth wahanol ar gyfer achosion gwahanol neu ddosbarthau ar achosion gwahanol.

(6)Cyn dyroddi’r cod (gan gynnwys unrhyw god diwygiedig) rhaid i’r Archwilydd Cyffredinol ymgynghori â’r personau hynny yr ymddengys iddo ei bod yn briodol ymgynghori â hwy.

(7)Rhaid i’r Archwilydd Cyffredinol drefnu bod y cod (gan gynnwys unrhyw god diwygiedig) yn cael ei gyhoeddi.

(8)Yn yr adran hon, ystyr “astudiaeth neu ymchwiliad gwerth am arian” yw astudiaeth neu ymchwiliad i ddarbodaeth, effeithlonrwydd ac effeithiolrwydd person o ran y ffordd y mae wedi cyflawni ei swyddogaethau neu wedi defnyddio adnoddau i gyflawni’r swyddogaethau hynny.

Gwybodaeth Cychwyn

I6A. 10 ddim mewn grym ar y Cydsyniad Brenhinol, gweler a. 35(2)

I7A. 10 mewn grym ar 4.7.2013 gan O.S. 2013/1466, ergl. 2(c)

Swyddogaethau mewn perthynas â llywodraeth leolLL+C

11Archwilio cyrff llywodraeth leolLL+C

(1)Yn lle adran 13 o Ddeddf Archwilio Cyhoeddus (Cymru) 2004 (archwilio cyfrifon cyrff llywodraeth leol yng Nghymru), rhodder—

13Audit of accounts of local government bodies in Wales

(1)A local government body in Wales—

(a)must make up its accounts each year to 31 March or such other date as the Welsh Ministers may generally or in any special case direct;

(b)must ensure that its accounts are audited in accordance with this Chapter.

(2)The Auditor General for Wales must audit the accounts of local government bodies in Wales..

(2)Yn adran 16 o Fesur Llywodraeth Leol (Cymru) 2009 (ystyr “rheoleiddwyr perthnasol” a “swyddogaethau perthnasol”), hepgorer paragraff (e) o is-adran (2).

Gwybodaeth Cychwyn

I8A. 11 ddim mewn grym ar y Cydsyniad Brenhinol, gweler a. 35(2)

I9A. 11 mewn grym ar 1.4.2014 gan O.S. 2013/1466, ergl. 3(1)

Darpariaeth yn ymwneud â throsglwyddo swyddogaethau goruchwyliol Gweinidogion CymruLL+C

12Trosglwyddo etc swyddogaethau goruchwyliol Gweinidogion Cymru: ymgynghoriLL+C

Yn Neddf Llywodraeth Cymru 1998, yn adran 146A (trosglwyddo etc swyddogaethau goruchwyliol Gweinidogion Cymru sy’n ymwneud â chyrff penodol i’r Archwilydd Cyffredinol), ar ôl is-adran (1), mewnosoder—

(1A)But before making an order under subsection (1), the Welsh Ministers must consult the Wales Audit Office..

Gwybodaeth Cychwyn

I10A. 12 ddim mewn grym ar y Cydsyniad Brenhinol, gweler a. 35(2)

I11A. 12 mewn grym ar 4.7.2013 gan O.S. 2013/1466, ergl. 2(d)