RHAN 2SWYDDFA ARCHWILIO CYMRU A’I PHERTHYNAS Â’R ARCHWILYDD CYFFREDINOL

PENNOD 2Y BERTHYNAS RHWNG YR ARCHWILYDD CYFFREDINOL A SAC

Ffioedd

I1I423Darpariaeth gyffredinol yn ymwneud â ffioedd

1

Rhaid talu ffioedd a symiau eraill y mae’r Archwilydd Cyffredinol yn eu cael, i SAC.

2

Caiff SAC godi ffi mewn perthynas ag archwilio cyfrifon neu ddatganiad o gyfrifon person gan yr Archwilydd Cyffredinol.

3

Caiff SAC godi ffi mewn perthynas â’r canlynol—

a

ymchwiliad, ardystiad neu adroddiad o dan baragraff 18(3) o Atodlen 8 i Ddeddf Llywodraeth Cymru 2006 (ymchwiliadau penodol i ddarbodaeth etc person wrth ddefnyddio adnoddau);

b

ymchwiliad a gynhelir ar gais person o dan adran 145 o Ddeddf Llywodraeth Cymru 1998 (ymchwiliadau i ddefnydd o adnoddau) neu astudiaeth a wneir ar gais person o dan adran 145A o’r Ddeddf honno (astudiaethau ar gyfer gwella darbodaeth etc mewn gwasanaethau);

F2ba

ymchwiliad, ardystiad neu adroddiad o dan adran 31 o Ddeddf Casglu a Rheoli Trethi (Cymru) 2016 mewn cysylltiad â Datganiad Treth Awdurdod Cyllid Cymru;

c

ymchwiliad neu astudiaeth a gynhelir neu a wneir gan yr Archwilydd Cyffredinol ar gais person o dan adran 46(4) o Ddeddf yr Amgylchedd 1995;

F1ca

ymchwiliad o dan adran 15 o Ddeddf Llesiant Cenedlaethau’r Dyfodol (Cymru) 2015 (dccc 2) (ymchwiliadau o gyrff cyhoeddus at ddibenion asesu i ba raddau y mae corff wedi gweithredu yn unol â’r egwyddor datblygu cynaliadwy);

d

unrhyw wasanaeth sy’n cael ei ddarparu neu swyddogaethau sy’n cael eu harfer o dan adran 19.

4

Rhaid i SAC godi ffi mewn perthynas â’r canlynol—

a

darparu gwasanaethau i gorff o dan baragraff 20 o Atodlen 8 i Ddeddf Llywodraeth Cymru 2006 (ardystio hawliadau, ffurflenni etc ar gais corff);

b

astudiaeth ar gais corff addysgol o dan adran 145B o Ddeddf Llywodraeth Cymru 1998.

5

O ran ffioedd a godir o dan yr adran hon—

a

ni chaniateir iddynt gael eu codi ond yn unol â chynllun a baratoir gan SAC o dan adran 24;

b

ni chaiff y ffi fod yn fwy na chost lawn arfer y swyddogaeth y mae’r ffi’n ymwneud â hi;

c

maent yn daladwy i SAC gan y person y mae’r swyddogaeth a arferir yn ymwneud ag ef.

I2I324Cynllun ar gyfer codi ffioedd

1

Rhaid i SAC baratoi cynllun sy’n ymwneud â chodi ffioedd gan SAC.

2

Rhaid i’r cynllun gynnwys y canlynol—

a

rhestr o’r deddfiadau y caiff SAC godi ffi odanynt;

b

pan fo’r deddfiadau hynny yn gwneud darpariaeth i SAC ragnodi graddfa neu raddfeydd ffioedd, y raddfa honno neu’r graddfeydd hynny;

c

pan fo’r deddfiadau hynny yn gwneud darpariaeth i SAC ragnodi swm i’w godi, y swm hwnnw;

d

pan nad oes darpariaeth wedi ei gwneud ar gyfer rhagnodi graddfa neu raddfeydd ffioedd, na rhagnodi swm, y modd y bydd SAC yn cyfrifo’r ffi a godir.

3

Caiff y cynllun wneud y canlynol ymysg pethau eraill—

a

cynnwys darpariaeth wahanol ar gyfer achosion gwahanol neu ddosbarthau ar achosion gwahanol, a

b

darparu ar gyfer yr adegau a’r modd y bydd taliadau yn cael eu gwneud.

4

O ran y cynllun—

a

rhaid i SAC ei adolygu o leiaf unwaith mewn blwyddyn galendr,

b

caiff SAC ei ddiwygio neu ei ail-wneud ar unrhyw adeg, ac

c

rhaid i SAC ei osod (a gosod unrhyw ddiwygiad iddo) gerbron y Cynulliad Cenedlaethol.

5

Pan fo Gweinidogion Cymru yn rhagnodi graddfa neu raddfeydd ffioedd o dan—

a

adran 64F o Ddeddf Archwilio Cyhoeddus (Cymru) 2004 (ffioedd am baru data), neu

b

adran 27A o Fesur Llywodraeth Leol (Cymru) 2009 (pŵer Gweinidogion Cymru i ragnodi graddfa ffioedd),

i gael effaith yn lle graddfa neu raddfeydd ffioedd a ragnodwyd gan SAC, rhaid i SAC ddiwygio’r cynllun i gynnwys y raddfa neu’r graddfeydd ffioedd a ragnodwyd gan Weinidogion Cymru yn lle’r rhai a ragnodwyd gan SAC.

6

Nid oes rhaid cael cymeradwyaeth y Cynulliad Cenedlaethol os mai diwygiad a wneir yn unol ag is-adran (5) yw’r unig ddiwygiad i gynllun.

7

Bydd y cynllun yn cael effaith pan fydd wedi cael ei gymeradwyo gan y Cynulliad Cenedlaethol neu, yn achos diwygiad a wneir yn unol ag is-adran (5), unwaith y bydd wedi cael ei osod gerbron y Cynulliad.

8

Rhaid i SAC gyhoeddi’r cynllun (ac unrhyw ddiwygiad iddo) cyn gynted ag y bo’n rhesymol ymarferol wedi iddo gael effaith.