Trefniadau talu cydnabyddiaethLL+C
7(1)Caiff y Cynulliad Cenedlaethol wneud trefniadau ar gyfer talu cydnabyddiaeth mewn perthynas â’r person sy’n gadeirydd SAC (yn ddarostyngedig i is-baragraff (2) a pharagraff 9).
(2)Ond cyn gwneud y trefniadau hynny rhaid ymgynghori â’r Prif Weinidog.
(3)Bydd symiau sy’n daladwy o dan is-baragraff (1) yn cael eu codi ar Gronfa Gyfunol Cymru a’u talu ohoni.
(4)Caiff y Cynulliad Cenedlaethol wneud trefniadau ar gyfer talu cydnabyddiaeth mewn perthynas ag unrhyw aelod anweithredol arall.
(5)Bydd symiau sy’n daladwy o dan is-baragraff (4) yn cael eu talu gan SAC.
(6)Caniateir i drefniadau talu cydnabyddiaeth o dan y paragraff hwn—
(a)darparu ar gyfer cyflog, lwfansau, arian rhodd, a buddion eraill i dalu treuliau yr aed iddynt yn briodol ac o anghenraid, ond nid ar gyfer pensiwn, a
(b)cynnwys fformiwla neu fecanwaith arall ar gyfer addasu un neu fwy o’r elfennau hynny o dro i dro.
(7)Ond ni chaiff unrhyw elfen fod yn seiliedig ar berfformiad.
Gwybodaeth Cychwyn
I1Atod. 1 para. 7 ddim mewn grym ar y Cydsyniad Brenhinol, gweler a. 35(2)
I2Atod. 1 para. 7 mewn grym ar 4.7.2013 gan O.S. 2013/1466, ergl. 2(u)(vii)