xmlns:atom="http://www.w3.org/2005/Atom"

ATODLEN 1YMGorffori Swyddfa Archwilio Cymru

RHAN 2AELODAU ANWEITHREDOL

Penodi aelodau anweithredol

4(1)Mae aelodau anweithredol i’w penodi gan y Cynulliad Cenedlaethol.

(2)Rhaid i benodiadau a wneir o dan is-baragraff (1) gael eu gwneud ar gasgliadau cystadleuaeth deg ac agored.

Penodi cadeirydd ar SAC

5(1)Mae cadeirydd ar SAC i’w benodi gan y Cynulliad Cenedlaethol o blith yr aelodau anweithredol.

(2)Ond cyn penodi’r cadeirydd rhaid ymgynghori â’r Prif Weinidog.

(3)Caiff y Cynulliad Cenedlaethol estyn penodiad o dan y paragraff hwn yn unol â’r weithdrefn sy’n ofynnol ar gyfer y penodiad gwreiddiol.

(4)Mae estyniad i’r penodiad yn cyfrif fel penodiad ar wahân at ddibenion paragraffau 6 i 8.

Cyfnod penodi ac ailbenodi

6(1)Rhaid i benodiad o dan y Rhan hon o’r Atodlen hon fod am gyfnod o hyd at 4 blynedd a dim mwy na hynny.

(2)Ni chaniateir penodi person o dan y Rhan hon o’r Atodlen hon fwy na dwywaith.

Trefniadau talu cydnabyddiaeth

7(1)Caiff y Cynulliad Cenedlaethol wneud trefniadau ar gyfer talu cydnabyddiaeth mewn perthynas â’r person sy’n gadeirydd SAC (yn ddarostyngedig i is-baragraff (2) a pharagraff 9).

(2)Ond cyn gwneud y trefniadau hynny rhaid ymgynghori â’r Prif Weinidog.

(3)Bydd symiau sy’n daladwy o dan is-baragraff (1) yn cael eu codi ar Gronfa Gyfunol Cymru a’u talu ohoni.

(4)Caiff y Cynulliad Cenedlaethol wneud trefniadau ar gyfer talu cydnabyddiaeth mewn perthynas ag unrhyw aelod anweithredol arall.

(5)Bydd symiau sy’n daladwy o dan is-baragraff (4) yn cael eu talu gan SAC.

(6)Caniateir i drefniadau talu cydnabyddiaeth o dan y paragraff hwn—

(a)darparu ar gyfer cyflog, lwfansau, arian rhodd, a buddion eraill i dalu treuliau yr aed iddynt yn briodol ac o anghenraid, ond nid ar gyfer pensiwn, a

(b)cynnwys fformiwla neu fecanwaith arall ar gyfer addasu un neu fwy o’r elfennau hynny o dro i dro.

(7)Ond ni chaiff unrhyw elfen fod yn seiliedig ar berfformiad.

Telerau penodi eraill

8(1)Caiff y Cynulliad Cenedlaethol bennu telerau penodi eraill ar gyfer penodiad o dan y Rhan hon o’r Atodlen hon (yn ddarostyngedig i baragraff 9).

(2)Caiff y telerau hynny gynnwys cyfyngiadau ar y canlynol—

(a)y swyddi (gan gynnwys swyddi y caniateir penodi personau iddynt, eu hargymell ar eu cyfer neu eu henwebu ar eu cyfer gan neu ar ran y Goron, y Cynulliad Cenedlaethol neu Gomisiwn y Cynulliad Cenedlaethol)—

(i)y caiff aelod anweithredol eu dal tra bo’r person hwnnw yn aelod, neu wedi iddo beidio â bod yn aelod;

(ii)y caiff cadeirydd SAC eu dal tra bo’r person hwnnw’n gadeirydd, neu wedi iddo beidio â bod yn gadeirydd, a

(b)y cytundebau a’r trefniadau eraill (gan gynnwys cytundebau a threfniadau gyda’r Goron, y Cynulliad Cenedlaethol neu Gomisiwn y Cynulliad Cenedlaethol, neu gyrff neu bersonau eraill sy’n gweithredu ar ran y Goron, y Cynulliad Cenedlaethol neu Gomisiwn y Cynulliad)—

(i)y caiff aelod anweithredol fod yn barti iddynt tra bo’r person hwnnw yn aelod, neu wedi iddo beidio â bod yn aelod;

(ii)y caiff cadeirydd SAC fod yn barti iddynt tra bo’r person hwnnw’n gadeirydd, neu wedi iddo beidio â bod yn gadeirydd.

(3)Ond dim ond tra bod person yn aelod anweithredol, ac am uchafswm o 2 flynedd yn dechrau ar y diwrnod y mae person yn peidio â bod yn aelod anweithredol, y caniateir gorfodi’r cyfyngiadau hyn.

Ymgynghori

9(1)Cyn gwneud unrhyw drefniadau o dan baragraff 7 neu benderfyniad o dan baragraff 8, rhaid ymgynghori â pherson priodol sydd â goruchwyliaeth dros benodiadau cyhoeddus.

(2)Mae’r ymgynghoriad sy’n ofynnol o dan is-baragraff (1) yn ychwanegol at yr ymgynghoriad sy’n ofynnol o dan baragraff 7(2).

Dod â phenodiadau i ben

10(1)Caiff y person sy’n gadeirydd ar SAC ymddiswyddo o’i swydd fel cadeirydd drwy roi hysbysiad ysgrifenedig i’r Cynulliad Cenedlaethol.

(2)Caiff aelod anweithredol ymddiswyddo drwy roi hysbysiad ysgrifenedig i’r Cynulliad Cenedlaethol.

(3)Daw penodiad y person sy’n ymddiswyddo i ben, yn unol ag is-baragraffau (1) neu (2), pan fo’r ymddiswyddiad yn cael ei dderbyn.

11(1)Caiff y Cynulliad Cenedlaethol ddod â phenodiad aelod anweithredol i ben drwy roi hysbysiad ysgrifenedig i’r aelod os—

(a)bu’r aelod yn absennol o gyfarfodydd SAC heb ganiatâd SAC am gyfanswm o 3 mis neu fwy (dros gyfnod neu gyfnodau) mewn unrhyw gyfnod o 12 mis,

(b)yw’r aelod wedi mynd yn fethdalwr neu wedi gwneud trefniant â chredydwyr,

(c)yw ystâd yr aelod wedi ei secwestru yn yr Alban neu fod yr aelod wedi ymrwymo i gynllun trefniant dyled o dan Ran 1 o Ddeddf Trefnu ac Atafaelu Dyled (Yr Alban) 2002 fel dyledwr, neu wedi gwneud, o dan gyfraith yr Alban, gompównd neu drefniant gyda chredydwyr yr aelod neu wedi rhoi gweithred ymddiried iddynt,

(d)yw’r aelod yn anaddas i barhau oherwydd camymddygiad,

(e)yw’r aelod wedi methu â chydymffurfio â thelerau’r penodiad, neu

(f)yw’r aelod yn methu â chyflawni ei swyddogaethau fel arall, yn anaddas i’w cyflawni fel arall, neu’n anfodlon eu cyflawni fel arall.

(2)Os yw’r aelod anweithredol y daw a’i benodiad i ben o dan is-baragraff (1) yn gadeirydd ar SAC, mae penodiad y person hwnnw fel cadeirydd hefyd yn dod i ben.

12(1)Caiff y Cynulliad Cenedlaethol ddod â phenodiad aelod anweithredol fel cadeirydd SAC i ben.

(2)Ond cyn dod â phenodiad i ben rhaid ymgynghori â’r Prif Weinidog.

(3)Caiff y Cynulliad Cenedlaethol ddod â’r penodiad i ben os yw’r person sy’n gadeirydd ar SAC—

(a)wedi methu â chydymffurfio â thelerau’r penodiad, neu

(b)fel arall yn anfodlon cyflawni swyddogaethau bod yn gadeirydd SAC.