ATODLEN 1YMGorffori Swyddfa Archwilio Cymru
RHAN 5CYFLOGEION
I1I522Penodi
1
Caiff SAC gyflogi staff.
2
Ni all person gael ei benodi yn aelod o staff SAC os yw’r person wedi ei anghymhwyso rhag cael ei benodi ar unrhyw un o’r seiliau a bennir yn Rhan 6 o’r Atodlen hon.
3
Bydd person yn peidio â bod yn aelod o staff SAC os yw’r person wedi ei anghymhwyso ar unrhyw un o’r seiliau hynny.
4
Bydd staff SAC yn cael eu cyflogi ar y telerau hynny y caniateir i SAC eu penderfynu.
5
Ni chaiff person sy’n gyflogai i SAC ddal unrhyw swydd y caniateir penodi person iddi, argymell person ar ei chyfer neu enwebu person ar ei chyfer gan neu ar ran y Goron, y Cynulliad Cenedlaethol neu Gomisiwn y Cynulliad Cenedlaethol.
Statws
I2I623
Nid yw aelod o staff SAC i’w ystyried—
a
yn was neu’n asiant i’r Goron, neu
b
yn mwynhau unrhyw statws, imiwnedd na braint sydd gan y Goron.
I3I724
Ond ystyrir bod aelod o staff SAC yn was y Goron at ddibenion Deddf Cyfrinachau Swyddogol 1989.
I4I825Trefniadau talu cydnabyddiaeth
1
Rhaid i SAC dalu tâl cydnabyddiaeth i gyflogeion fel y darperir ar ei gyfer gan eu telerau penodi, neu o dan y telerau hynny.
2
Rhaid i SAC dalu i’r Gweinidog dros y Gwasanaeth Sifil, ar yr adegau hynny a benderfynir gan y Gweinidog, daliadau o’r symiau hynny y penderfynir arnynt felly o ran y canlynol—
a
darparu pensiynau, lwfansau, arian rhodd neu fuddion eraill yn rhinwedd adran 1 o Ddeddf Blwydd-daliadau 1972 i, neu mewn perthynas ag, unrhyw berson sydd yn gyflogai i SAC neu sydd wedi peidio â bod yn gyflogai iddi, a
b
y treuliau yr aed iddynt drwy weinyddu’r pensiynau hynny, y lwfansau hynny, y rhoddion ariannol hynny neu’r buddion eraill hynny.