xmlns:atom="http://www.w3.org/2005/Atom" xmlns:atom="http://www.w3.org/2005/Atom"
22(1)Caiff SAC gyflogi staff.
(2)Ni all person gael ei benodi yn aelod o staff SAC os yw’r person wedi ei anghymhwyso rhag cael ei benodi ar unrhyw un o’r seiliau a bennir yn Rhan 6 o’r Atodlen hon.
(3)Bydd person yn peidio â bod yn aelod o staff SAC os yw’r person wedi ei anghymhwyso ar unrhyw un o’r seiliau hynny.
(4)Bydd staff SAC yn cael eu cyflogi ar y telerau hynny y caniateir i SAC eu penderfynu.
(5)Ni chaiff person sy’n gyflogai i SAC ddal unrhyw swydd y caniateir penodi person iddi, argymell person ar ei chyfer neu enwebu person ar ei chyfer gan neu ar ran y Goron, y Cynulliad Cenedlaethol neu Gomisiwn y Cynulliad Cenedlaethol.
Gwybodaeth Cychwyn
I1Atod. 1 para. 22 ddim mewn grym ar y Cydsyniad Brenhinol, gweler a. 35(2)
I2Atod. 1 para. 22 mewn grym ar 1.4.2014 gan O.S. 2013/1466, ergl. 3(1)
23Nid yw aelod o staff SAC i’w ystyried—
(a)yn was neu’n asiant i’r Goron, neu
(b)yn mwynhau unrhyw statws, imiwnedd na braint sydd gan y Goron.
Gwybodaeth Cychwyn
I3Atod. 1 para. 23 ddim mewn grym ar y Cydsyniad Brenhinol, gweler a. 35(2)
I4Atod. 1 para. 23 mewn grym ar 1.4.2014 gan O.S. 2013/1466, ergl. 3(1)
24Ond ystyrir bod aelod o staff SAC yn was y Goron at ddibenion Deddf Cyfrinachau Swyddogol 1989.
Gwybodaeth Cychwyn
I5Atod. 1 para. 24 ddim mewn grym ar y Cydsyniad Brenhinol, gweler a. 35(2)
I6Atod. 1 para. 24 mewn grym ar 1.4.2014 gan O.S. 2013/1466, ergl. 3(1)
25(1)Rhaid i SAC dalu tâl cydnabyddiaeth i gyflogeion fel y darperir ar ei gyfer gan eu telerau penodi, neu o dan y telerau hynny.
(2)Rhaid i SAC dalu i’r Gweinidog dros y Gwasanaeth Sifil, ar yr adegau hynny a benderfynir gan y Gweinidog, daliadau o’r symiau hynny y penderfynir arnynt felly o ran y canlynol—
(a)darparu pensiynau, lwfansau, arian rhodd neu fuddion eraill yn rhinwedd adran 1 o Ddeddf Blwydd-daliadau 1972 i, neu mewn perthynas ag, unrhyw berson sydd yn gyflogai i SAC neu sydd wedi peidio â bod yn gyflogai iddi, a
(b)y treuliau yr aed iddynt drwy weinyddu’r pensiynau hynny, y lwfansau hynny, y rhoddion ariannol hynny neu’r buddion eraill hynny.
Gwybodaeth Cychwyn
I7Atod. 1 para. 25 ddim mewn grym ar y Cydsyniad Brenhinol, gweler a. 35(2)
I8Atod. 1 para. 25 mewn grym ar 1.4.2014 gan O.S. 2013/1466, ergl. 3(1)