ATODLEN 2Y berthynas rhwng yr Archwilydd Cyffredinol a SAC
RHAN 1COD YMARFER
I1I31Paratoi a chymeradwyo etc
1
Rhaid i SAC a’r Archwilydd Cyffredinol baratoi cod ymarfer ar y cyd sy’n ymdrin â’r berthynas rhwng SAC a’r Archwilydd Cyffredinol.
2
Wrth wneud hynny, rhaid iddynt geisio adlewyrchu’r egwyddor a nodir yn adran 8(1) a (2).
3
Rhaid i SAC a’r Archwilydd Cyffredinol adolygu’r cod ar y cyd yn rheolaidd a’i ddiwygio fel y bo’n briodol.
4
Rhaid i’r cod (gan gynnwys unrhyw ddiwygiad) gael ei gymeradwyo gan y Cynulliad Cenedlaethol.
5
At y diben hwn, rhaid i gadeirydd SAC a’r Archwilydd Cyffredinol osod y cod (neu’r diwygiad) gerbron y Cynulliad Cenedlaethol.
6
Rhaid i SAC a’r Archwilydd Cyffredinol ill dau gydymffurfio â chod sydd wedi ei gymeradwyo gan y Cynulliad Cenedlaethol.
7
Rhaid i SAC a’r Archwilydd Cyffredinol drefnu i god a gymeradwywyd gael ei gyhoeddi.
I2I42Cynnwys
1
Rhaid i’r cod gynnwys—
a
darpariaeth ynghylch sut y mae SAC i fonitro swyddogaethau’r Archwilydd Cyffredinol at ddibenion adran 17(1);
b
darpariaeth ynghylch sut y mae cyngor i gael ei roi gan SAC i’r Archwilydd Cyffredinol at ddibenion adran 17(2) (gan gynnwys natur y cyngor sydd i’w roi);
c
darpariaeth ynghylch safonau ar gyfer llywodraethu corfforaethol.
2
Caniateir i’r cod gynnwys darpariaeth ynghylch unrhyw fater arall sy’n berthnasol i’r berthynas rhwng SAC a’r Archwilydd Cyffredinol.