xmlns:atom="http://www.w3.org/2005/Atom" xmlns:atom="http://www.w3.org/2005/Atom"

ATODLEN 2LL+CY berthynas rhwng yr Archwilydd Cyffredinol a SAC

RHAN 1LL+CCOD YMARFER

Paratoi a chymeradwyo etcLL+C

1(1)Rhaid i SAC a’r Archwilydd Cyffredinol baratoi cod ymarfer ar y cyd sy’n ymdrin â’r berthynas rhwng SAC a’r Archwilydd Cyffredinol.

(2)Wrth wneud hynny, rhaid iddynt geisio adlewyrchu’r egwyddor a nodir yn adran 8(1) a (2).

(3)Rhaid i SAC a’r Archwilydd Cyffredinol adolygu’r cod ar y cyd yn rheolaidd a’i ddiwygio fel y bo’n briodol.

(4)Rhaid i’r cod (gan gynnwys unrhyw ddiwygiad) gael ei gymeradwyo gan y Cynulliad Cenedlaethol.

(5)At y diben hwn, rhaid i gadeirydd SAC a’r Archwilydd Cyffredinol osod y cod (neu’r diwygiad) gerbron y Cynulliad Cenedlaethol.

(6)Rhaid i SAC a’r Archwilydd Cyffredinol ill dau gydymffurfio â chod sydd wedi ei gymeradwyo gan y Cynulliad Cenedlaethol.

(7)Rhaid i SAC a’r Archwilydd Cyffredinol drefnu i god a gymeradwywyd gael ei gyhoeddi.

Gwybodaeth Cychwyn

I1Atod. 2 para. 1 ddim mewn grym ar y Cydsyniad Brenhinol, gweler a. 35(2)

I2Atod. 2 para. 1 mewn grym ar 4.7.2013 gan O.S. 2013/1466, ergl. 2(v)(i)

CynnwysLL+C

2(1)Rhaid i’r cod gynnwys—

(a)darpariaeth ynghylch sut y mae SAC i fonitro swyddogaethau’r Archwilydd Cyffredinol at ddibenion adran 17(1);

(b)darpariaeth ynghylch sut y mae cyngor i gael ei roi gan SAC i’r Archwilydd Cyffredinol at ddibenion adran 17(2) (gan gynnwys natur y cyngor sydd i’w roi);

(c)darpariaeth ynghylch safonau ar gyfer llywodraethu corfforaethol.

(2)Caniateir i’r cod gynnwys darpariaeth ynghylch unrhyw fater arall sy’n berthnasol i’r berthynas rhwng SAC a’r Archwilydd Cyffredinol.

Gwybodaeth Cychwyn

I3Atod. 2 para. 2 ddim mewn grym ar y Cydsyniad Brenhinol, gweler a. 35(2)

I4Atod. 2 para. 2 mewn grym ar 4.7.2013 gan O.S. 2013/1466, ergl. 2(v)(ii)