xmlns:atom="http://www.w3.org/2005/Atom" xmlns:atom="http://www.w3.org/2005/Atom"

ATODLEN 3LL+CDarpariaethau trosiannol, atodol ac arbed

RHAN 3LL+CTROSGLWYDDO SWYDDOGAETHAU ETC

Trosglwyddo eiddo arall a hawliau a rhwymedigaethau eraillLL+C

11(1)Mae tystysgrif a ddyroddir gan Weinidogion Cymru yn nodi bod eiddo wedi ei drosglwyddo yn rhinwedd paragraff 10(1) yn dystiolaeth bendant o’r trosglwyddiad.

(2)Mae paragraff 10 yn cael effaith mewn perthynas ag eiddo, hawliau neu rwymedigaethau y mae’n gymwys iddynt er gwaethaf unrhyw ddarpariaeth (o ba natur bynnag) a fyddai fel arall yn rhwystro neu’n cosbi trosglwyddiad yr eiddo, yr hawliau neu’r rhwymedigaethau neu’n cyfyngu ar eu trosglwyddo.

(3)Nid oes hawl i ragbrynu, hawl i ddychwelyd na hawl arall debyg yn gweithredu nac yn dod yn arferadwy o ganlyniad i unrhyw drosglwyddiad eiddo neu hawliau yn rhinwedd paragraff 10(1).

(4)Mae unrhyw hawl o’r fath yn cael effaith yn achos unrhyw drosglwyddiad o’r fath fel pe bai’r trosglwyddwr a’r trosglwyddai yn un person yn gyfreithiol ac nad oedd eiddo na hawliau wedi eu trosglwyddo.

(5)Telir y symiau digolledu hynny sy’n gyfiawn i unrhyw berson o ran unrhyw hawl o’r fath a fyddai, ar wahân i is-baragraff (3), wedi gweithredu o blaid y person hwnnw neu wedi dod yn arferadwy ganddo, ond na all weithredu o blaid y person hwnnw na dod yn arferadwy ganddo bellach oherwydd gweithrediad yr is-baragraff hwnnw.

(6)Ond ni thelir symiau digolledu o dan is-baragraff (5) i’r Archwilydd Cyffredinol, i SAC nac i gyn-Archwilydd Cyffredinol.

(7)Mae symiau digolledu sy’n daladwy yn rhinwedd is-baragraff (5) i’w talu gan SAC.

(8)Mae unrhyw swm a delir o dan is-baragraff (7) i’w godi ar Gronfa Gyfunol Cymru a’i dalu ohono.

(9)Mae is-baragraffau (2) i (8) yn gymwys mewn perthynas â chreu hawliau neu fuddiannau, neu wneud unrhyw beth arall mewn perthynas ag eiddo, fel y maent yn gymwys o ran trosglwyddo eiddo, ac mae cyfeiriadau at y trosglwyddwr a’r trosglwyddai i’w darllen yn unol â hynny.

(10)Yn y paragraff hwn, ystyr “hawl i ddychwelyd” yw unrhyw hawl o dan ddarpariaeth ar gyfer dychweliad neu rifersiwn eiddo mewn amgylchiadau penodol.

Gwybodaeth Cychwyn

I1Atod. 3 para. 11 ddim mewn grym ar y Cydsyniad Brenhinol, gweler a. 35(2)

I2Atod. 3 para. 11 mewn grym ar 1.4.2014 gan O.S. 2013/1466, ergl. 3(1)