ATODLEN 3Darpariaethau trosiannol, atodol ac arbed
RHAN 1YR ARCHWILYDD CYFFREDINOL
3Arbedion yn ymwneud â chyfyngiadau ar ddatgelu gwybodaeth
1
Pan fo gwybodaeth wedi ei chael gan—
a
archwilydd a benodwyd o dan adran 13 o Ddeddf Archwilio Cyhoeddus (Cymru) 2004 o dan ddarpariaeth o’r Ddeddf honno sydd wedi ei diwygio gan y Ddeddf hon,
b
person sy’n gweithredu ar ei ran, neu
c
person sy’n gweithredu ar ran yr Archwilydd Cyffredinol o dan ddarpariaeth unrhyw un o’r deddfiadau a ganlyn sydd wedi ei diwygio gan y Ddeddf hon—
i
adran 145C o Ddeddf Llywodraeth Cymru 1998,
ii
Rhan 1 o Ddeddf Llywodraeth Leol 1999,
iii
Rhan 1 neu Ran 3A o Ddeddf Archwilio Cyhoeddus (Cymru) 2004, neu
iv
Rhan 1 o Fesur Llywodraeth Leol (Cymru) 2009,
nid effeithir ar y modd y mae unrhyw ddarpariaeth ynglŷn â datgelu gwybodaeth yn gweithredu gan ddiwygiad i’r ddarpariaeth honno.
2
I’r graddau y mae’n angenrheidiol ar gyfer parhau’r modd y mae unrhyw ddarpariaeth ynglŷn â datgelu gwybodaeth yn gweithredu, bydd gwybodaeth sydd wedi ei chael mewn modd a grybwyllir yn is-baragraff (1) i’w thrin yn yr un modd a gwybodaeth sydd wedi ei chael gan yr Archwilydd Cyffredinol.