Deddf Archwilio Cyhoeddus (Cymru) 2013

Arbedion yn ymwneud â chyfyngiadau ar ddatgelu gwybodaethLL+C

This section has no associated Explanatory Notes

3(1)Pan fo gwybodaeth wedi ei chael gan—

(a)archwilydd a benodwyd o dan adran 13 o Ddeddf Archwilio Cyhoeddus (Cymru) 2004 o dan ddarpariaeth o’r Ddeddf honno sydd wedi ei diwygio gan y Ddeddf hon,

(b)person sy’n gweithredu ar ei ran, neu

(c)person sy’n gweithredu ar ran yr Archwilydd Cyffredinol o dan ddarpariaeth unrhyw un o’r deddfiadau a ganlyn sydd wedi ei diwygio gan y Ddeddf hon—

(i)adran 145C o Ddeddf Llywodraeth Cymru 1998,

(ii)Rhan 1 o Ddeddf Llywodraeth Leol 1999,

(iii)Rhan 1 neu Ran 3A o Ddeddf Archwilio Cyhoeddus (Cymru) 2004, neu

(iv)Rhan 1 o Fesur Llywodraeth Leol (Cymru) 2009,

nid effeithir ar y modd y mae unrhyw ddarpariaeth ynglŷn â datgelu gwybodaeth yn gweithredu gan ddiwygiad i’r ddarpariaeth honno.

(2)I’r graddau y mae’n angenrheidiol ar gyfer parhau’r modd y mae unrhyw ddarpariaeth ynglŷn â datgelu gwybodaeth yn gweithredu, bydd gwybodaeth sydd wedi ei chael mewn modd a grybwyllir yn is-baragraff (1) i’w thrin yn yr un modd a gwybodaeth sydd wedi ei chael gan yr Archwilydd Cyffredinol.

Gwybodaeth Cychwyn

I1Atod. 3 para. 3 ddim mewn grym ar y Cydsyniad Brenhinol, gweler a. 35(2)

I2Atod. 3 para. 3 mewn grym ar 1.4.2014 gan O.S. 2013/1466, ergl. 3(1)