Deddf Archwilio Cyhoeddus (Cymru) 2013

Cydnabod undebau llafurLL+C

This section has no associated Explanatory Notes

8(1)Pan oedd undeb llafur annibynnol wedi ei gydnabod gan yr Archwilydd Cyffredinol i unrhyw raddau cyn y trosglwyddiad a grybwyllir ym mharagraff 5(1) mewn perthynas ag unrhyw gyflogai y trosglwyddwyd ei gyflogaeth, ar ôl y trosglwyddiad—

(a)mae’r undeb hwnnw i’w drin fel pe bai wedi ei gydnabod gan SAC i’r un graddau mewn perthynas â’r cyflogeion hynny, a

(b)caniateir i unrhyw gytundeb ar gyfer cydnabyddiaeth gael ei amrywio neu ei ddad-wneud yn unol â hynny.

(2)Yn y paragraff hwn—

  • mae i “cydnabod” yr ystyr a roddir i “recognised” yn adran 178(3) o Ddeddf 1992,

  • mae i “undeb llafur annibynnol” yr ystyr a roddir i “independent trade union” yn adran 5 o Ddeddf 1992, ac

  • ystyr “Deddf 1992” yw Deddf Undebau Llafur a Chysylltiadau Llafur (Cydgrynhoi) 1992.

Gwybodaeth Cychwyn

I1Atod. 3 para. 8 ddim mewn grym ar y Cydsyniad Brenhinol, gweler a. 35(2)

I2Atod. 3 para. 8 mewn grym ar 1.4.2014 gan O.S. 2013/1466, ergl. 3(1)