ATODLEN 4Mân ddiwygiadau a diwygiadau canlyniadol

I1I241Deddf Archwilio Cyhoeddus (Cymru) 2004

1

Mae adran 36 (pŵer archwilydd i wneud hawliad am adolygiad barnwrol) wedi ei diwygio fel a ganlyn.

2

Yn is-adran (1)—

a

yn lle “An auditor appointed to audit accounts of a local government body in Wales” rhodder “The Auditor General for Wales”, a

b

yn lle’r cyfeiriad cyntaf at “the body” rhodder “a local government body in Wales”.

3

Yn is-adran (3), yn lle “an auditor” rhodder “the Auditor General for Wales”.

4

Yn is-adran (4)—

a

yn lle “an auditor” rhodder “the Auditor General for Wales”, a

b

yn lle “the auditor” rhodder “the Auditor General for Wales or the Wales Audit Office”.