17SAC i fonitro a darparu cyngorLL+C
This section has no associated Explanatory Notes
(1)Rhaid i SAC, yn y modd hwnnw y mae’n ei ystyried yn briodol, fonitro sut y mae’r Archwilydd Cyffredinol yn arfer ei swyddogaethau.
(2)Caiff SAC ddarparu cyngor i’r Archwilydd Cyffredinol ynghylch arfer ei swyddogaethau.
(3)Rhaid i’r Archwilydd Cyffredinol roi sylw i unrhyw gyngor a roddir iddo.
Gwybodaeth Cychwyn
I1A. 17 ddim mewn grym ar y Cydsyniad Brenhinol, gweler a. 35(2)
I2A. 17(1) mewn grym ar 1.4.2014 gan O.S. 2013/1466, ergl. 3(1)
I3A. 17(2)(3) mewn grym ar 4.7.2013 at ddibenion penodedig gan O.S. 2013/1466, ergl. 2(i)
I4A. 17(2)(3) mewn grym ar 1.4.2014 i'r graddau nad yw eisoes mewn grym gan O.S. 2013/1466, ergl. 3(1)