RHAN 1ARCHWILYDD CYFFREDINOL CYMRU
PENNOD 1SWYDD ARCHWILYDD CYFFREDINOL CYMRU
I1I22Swydd Archwilydd Cyffredinol Cymru
1
Bydd swydd Archwilydd Cyffredinol Cymru (yr “Archwilydd Cyffredinol”) yn parhau.
2
Ei Mawrhydi sydd i benodi person i fod yn Archwilydd Cyffredinol ar enwebiad y Cynulliad Cenedlaethol.
3
Nid oes enwebiad i gael ei wneud hyd nes bod y Cynulliad Cenedlaethol wedi ei fodloni bod ymgynghoriad rhesymol wedi cael ei wneud gyda’r cyrff hynny yr ymddengys i’r Cynulliad eu bod yn cynrychioli buddiannau cyrff llywodraeth leol yng Nghymru.
4
Mae’r person sydd wedi ei benodi yn dal y swydd am hyd at 8 mlynedd.
5
Ni chaniateir i’r person gael ei benodi eto.
6
Nid effeithir ar ddilysrwydd gweithred neu anweithred person a benodwyd yn Archwilydd Cyffredinol gan ddiffyg yn enwebiad neu benodiad y person hwnnw.