Deddf Archwilio Cyhoeddus (Cymru) 2013

25Cynllun blynyddolLL+C
This section has no associated Explanatory Notes

(1)Cyn dechrau pob blwyddyn ariannol rhaid i’r Archwilydd Cyffredinol a SAC baratoi cynllun blynyddol ar y cyd ar gyfer y flwyddyn honno.

(2)Rhaid i’r cynllun blynyddol nodi’r canlynol—

(a)rhaglen waith yr Archwilydd Cyffredinol;

(b)rhaglen waith SAC;

(c)yr adnoddau sydd ar gael, ac a all ddod ar gael, i SAC;

(d)sut y mae’r adnoddau i gael eu defnyddio er mwyn ymgymryd â rhaglen yr Archwilydd Cyffredinol;

(e)sut y mae’r adnoddau i gael eu defnyddio er mwyn ymgymryd â rhaglen SAC;

(f)yr uchafswm, allan o’r o adnoddau sydd ar gael, ac a all ddod ar gael, y rhagwelir y bydd SAC yn dyrannu i’r Archwilydd Cyffredinol at y diben o ymgymryd â rhaglen yr Archwilydd Cyffredinol.

(3)Yn y Bennod hon—

  • ystyr “rhaglen waith yr Archwilydd Cyffredinol” yw blaenoriaethau’r Archwilydd Cyffredinol ar gyfer blwyddyn ariannol wrth arfer ei swyddogaethau;

  • ystyr “rhaglen waith SAC” yw blaenoriaethau SAC ar gyfer blwyddyn ariannol wrth arfer ei swyddogaethau o dan y Ddeddf hon.

Gwybodaeth Cychwyn

I1A. 25 ddim mewn grym ar y Cydsyniad Brenhinol, gweler a. 35(2)

I2A. 25 mewn grym ar 4.7.2013 gan O.S. 2013/1466, ergl. 2(m)