(1)Caiff y Cynulliad Cenedlaethol, drwy reolau sefydlog, wneud darpariaeth ynghylch arfer y swyddogaethau a roddir iddo gan neu o dan y Ddeddf hon.
(2)Mae’r ddarpariaeth y caniateir ei gwneud yn cynnwys dirprwyo swyddogaethau i’r Llywydd, y Dirprwy Lywydd, i bwyllgor neu is-bwyllgor y Cynulliad Cenedlaethol neu i gadeirydd pwyllgor neu is-bwyllgor o’r fath (ond nid yw’n gyfyngedig i hynny).
(3)Nid yw’r adran hon yn gymwys i swyddogaethau’r Cynulliad Cenedlaethol o dan adran 30 (gorchmynion).
Gwybodaeth Cychwyn
I1A. 28 ddim mewn grym ar y Cydsyniad Brenhinol, gweler a. 35(2)
I2A. 28 mewn grym ar 4.7.2013 gan O.S. 2013/1466, ergl. 2(p)