3Ymddiswyddiad neu ddiswyddiadLL+C
(1)Mae person a benodir yn Archwilydd Cyffredinol yn dal y swydd tan ddiwedd y cyfnod y penodwyd y person hwnnw ar ei gyfer (yn ddarostyngedig i is-adrannau (2) a (3)).
(2)Caiff Ei Mawrhydi ryddhau person o’i swydd fel Archwilydd Cyffredinol cyn diwedd y cyfnod y penodwyd y person ar ei gyfer—
(a)ar gais y person, neu
(b)wedi i’w Mawrhydi gael ei bodloni nad yw’r person yn gallu, oherwydd rhesymau meddygol, cyflawni dyletswyddau’r swydd na gwneud cais i gael ei ryddhau ohoni.
(3)Caiff Ei Mawrhydi ddiswyddo person o’i swydd fel Archwilydd Cyffredinol cyn diwedd y cyfnod y penodwyd y person ar ei gyfer ar dderbyn argymhelliad, ar sail camymddygiad y person, y dylai Ei Mawrhydi wneud hynny.
(4)Ni chaniateir gwneud argymhelliad i ddiswyddo person o’i swydd fel Archwilydd Cyffredinol oni bai—
(a)bod y Cynulliad Cenedlaethol wedi penderfynu y dylai’r argymhelliad gael ei wneud, a
(b)bod penderfyniad y Cynulliad wedi ei basio ar bleidlais lle yr oedd nifer yr aelodau Cynulliad a bleidleisiodd o blaid yn ddim llai na dwy ran o dair o gyfanswm nifer y seddi yn y Cynulliad.
Gwybodaeth Cychwyn
I1A. 3 ddim mewn grym ar y Cydsyniad Brenhinol, gweler a. 35(2)
I2A. 3 mewn grym ar 1.4.2014 gan O.S. 2013/1466, ergl. 3(1)