RHAN 3AMRYWIOL A CHYFFREDINOL

I130Gorchmynion

1

Mae pŵer Gweinidogion Cymru i wneud gorchymyn o dan y Ddeddf hon yn arferadwy drwy offeryn statudol.

2

Ni chaniateir gwneud offeryn statudol sy’n cynnwys gorchymyn o dan adran 33 (darpariaethau trosiannol, atodol etc) sy’n cynnwys darpariaeth sy’n diwygio, yn diddymu neu’n addasu fel arall ddeddfiad (ac eithrio deddfiad sydd wedi ei gynnwys mewn is-ddeddfwriaeth) neu offeryn uchelfreiniol onid oes drafft o’r offeryn wedi ei osod gerbron Cynulliad Cenedlaethol Cymru ac wedi ei gymeradwyo drwy benderfyniad ganddo.

3

Mae unrhyw offeryn statudol arall sy’n cynnwys gorchymyn o dan y Ddeddf hon, ac eithrio offeryn sy’n cynnwys gorchymyn o dan adran 35 (cychwyn) yn unig, yn ddarostyngedig i’w ddiddymu yn unol â phenderfyniad gan y Cynulliad Cenedlaethol.

4

Mae unrhyw bŵer gan Weinidogion Cymru i wneud gorchymyn o dan y Ddeddf hon (ar wahân i orchymyn o dan adran 35 (cychwyn)) yn cynnwys pŵer—

a

i wneud darpariaeth wahanol at achosion gwahanol neu ddosbarthau ar achosion gwahanol, neu at ddibenion gwahanol;

b

i wneud darpariaeth yn gyffredinol neu yn ddarostyngedig i esemptiadau neu eithriadau penodol neu mewn perthynas ag achosion penodol neu ddosbarthau ar achosion penodol;

c

i wneud unrhyw ddarpariaeth atodol, darpariaeth drosiannol, darpariaeth ddarfodol, darpariaeth ganlyniadol, darpariaeth arbed, darpariaeth gysylltiedig a darpariaeth arall sy’n angenrheidiol neu yn briodol ym marn Gweinidogion Cymru.