xmlns:atom="http://www.w3.org/2005/Atom" xmlns:atom="http://www.w3.org/2005/Atom"
14(1)Caiff Gweinidogion Cymru, ar gais awdurdod lleol, drwy orchymyn ddarparu bod yr Atodlen hon, o ran unrhyw dir a leolir yn ei ardal a bennir yn y gorchymyn, i fod yn effeithiol fel pe bai paragraffau 2 i 10, neu unrhyw un neu ragor o’r paragraffau hyn a bennir yn y gorchymyn, wedi eu hepgor o’r Atodlen hon.
(2)O ran gorchymyn o dan y paragraff hwn—
(a)daw i rym ar y dyddiad a bennir ynddo, a
(b)ni chaniateir ei amrywio neu ei ddirymu gan orchymyn dilynol ond ar gais yr awdurdod lleol y cafodd ei wneud ar ei gais.
(3)Heb fod yn llai na 3 mis cyn i orchymyn o dan y paragraff hwn ddod i rym, rhaid i’r awdurdod lleol y cafodd ei wneud ar ei gais beri bod hysbysiad sy’n nodi effaith y gorchymyn a’r dyddiad y daw i rym gael ei gyhoeddi mewn papur newydd lleol sy’n cylchredeg yn yr ardal y mae’r tir y mae’r gorchymyn yn cyfeirio ato wedi ei leoli ynddo.
(4)Nid yw is-baragraff (3) yn gymwys yn achos gorchymyn ei unig effaith yw dirymu gorchymyn blaenorol yn gyfan gwbl neu’n rhannol.
Gwybodaeth Cychwyn
I1Atod. 1 para. 14 ddim mewn grym ar y Cydsyniad Brenhinol, gweler a. 64(2)
I2Atod. 1 para. 14 mewn grym ar 1.10.2014 gan O.S. 2014/11, ergl. 3(1)(a) (ynghyd ag ergl. 4)