Deddf Cartrefi Symudol (Cymru) 2013

Eu defnyddio gan berson sy’n teithio â chartref symudol am 1 neu 2 o nosweithiauLL+C

This section has no associated Explanatory Notes

2Yn ddarostyngedig i baragraff 14, nid yw safle’n safle rheoleiddiedig yn rhinwedd cael ei ddefnyddio gan berson sy’n teithio â chartref symudol sy’n dod â’r cartref symudol i’r tir am gyfnod nad yw’n cynnwys mwy na 2 noson—

(a)os nad oes cartref symudol arall wedi ei osod yn ystod y cyfnod hwnnw er mwyn i bobl fyw ynddo ar y tir hwnnw neu unrhyw dir cyfagos o dan yr un berchnogaeth, a

(b)os nad oedd nifer y diwrnodau pryd y gosodid cartref symudol unrhyw le ar y tir hwnnw neu’r tir cyfagos hwnnw er mwyn i bobl fyw ynddo yn fwy nag 28 yn ystod y cyfnod o 12 mis yn diweddu â’r diwrnod y deuir â’r cartref symudol i’r tir.

Gwybodaeth Cychwyn

I1Atod. 1 para. 2 ddim mewn grym ar y Cydsyniad Brenhinol, gweler a. 64(2)

I2Atod. 1 para. 2 mewn grym ar 1.10.2014 gan O.S. 2014/11, ergl. 3(1)(a) (ynghyd ag ergl. 4)