xmlns:atom="http://www.w3.org/2005/Atom" xmlns:atom="http://www.w3.org/2005/Atom"

ATODLEN 1LL+CSAFLEOEDD NAD YDYNT YN SAFLEOEDD RHEOLEIDDIEDIG

Defnyddio daliadau o 20,000 m² neu fwy o dan amgylchiadau penodolLL+C

3(1)Yn ddarostyngedig i baragraff 14, nid yw safle’n safle rheoleiddiedig ar unrhyw ddiwrnod os yw’n ffurfio, ynghyd ag unrhyw dir cyfagos sydd o dan yr un berchnogaeth ac nad adeiladwyd arno, nid llai nag 20,000 o fetrau sgwâr ac o fewn y cyfnod o 12 mis cyn y diwrnod hwnnw—

(a)nad oedd nifer y diwrnodau pryd y gosodid cartref symudol unrhyw le ar y tir hwnnw neu ar y tir cyfagos hwnnw er mwyn i bobl fyw ynddo yn fwy nag 28, a

(b)nad oedd mwy na 3 chartref symudol wedi eu gosod unrhyw le ar y tir hwnnw neu ar y tir cyfagos hwnnw er mwyn i bobl fyw ynddynt ar unrhyw un adeg.

(2)Caiff Gweinidogion Cymru drwy orchymyn ddarparu bod y paragraff hwn i fod yn effeithiol mewn unrhyw ardal a bennir yn y gorchymyn fel pe bai—

(a)y cyfeiriad yn is-baragraff (1) at 20,000 o fetrau sgwâr wedi ei ddisodli gan gyfeiriad at unrhyw arwynebedd lai a bennir yn y gorchymyn, neu

(b)yr amod a bennir ym mharagraff (a) o’r is-baragraff hwnnw wedi ei ddisodli gan amod bod y defnyddio o dan sylw yn syrthio rhwng unrhyw ddyddiadau mewn unrhyw flwyddyn a bennir yn y gorchymyn.

(3)Caiff Gweinidogion Cymru wneud gorchmynion gwahanol o dan is-baragraff (2) o ran ardaloedd gwahanol.

(4)Mae gorchymyn o dan is-baragraff (2) i ddod i rym ar y dyddiad a bennir yn y gorchymyn, sef dyddiad nad yw’n llai na 3 mis ar ôl i’r gorchymyn gael ei wneud.

(5)Rhaid i Weinidogion Cymru gyhoeddi hysbysiad ynglŷn â gorchymyn o dan is-baragraff (2) mewn papur newydd lleol sy’n cylchredeg yn yr ardal yr effeithir arni gan y gorchymyn ac mewn unrhyw ffyrdd eraill y mae’n ymddangos iddynt eu bod yn briodol er mwyn tynnu sylw’r cyhoedd at y gorchymyn.

Gwybodaeth Cychwyn

I1Atod. 1 para. 3 ddim mewn grym ar y Cydsyniad Brenhinol, gweler a. 64(2)

I2Atod. 1 para. 3 mewn grym ar 1.10.2014 gan O.S. 2014/11, ergl. 3(1)(a) (ynghyd ag ergl. 4)