39Mae gan y perchennog hawl i derfynu’r cytundeb ar unwaith os bydd y corff barnwrol priodol, ar gais y perchennog—
(a)wedi ei fodloni nad yw’r meddiannydd yn meddiannu’r cartref symudol fel unig neu brif breswylfa’r meddiannydd, a
(b)o’r farn ei bod yn rhesymol terfynu’r cytundeb.
Gwybodaeth Cychwyn
I1Atod. 2 para. 39 ddim mewn grym ar y Cydsyniad Brenhinol, gweler a. 64(2)
I2Atod. 2 para. 39 mewn grym ar 1.10.2014 gan O.S. 2014/11, ergl. 3(1)(d) (ynghyd ag ergl. 4)