ATODLEN 5DARPARIAETHAU TROSIANNOL A DARFODOL AC ARBEDION

(a gyflwynir gan adran 58)

1Ceisiadau am drwyddedau safle sydd yn yr arfaeth

Mae cais am drwydded safle o dan Ddeddf Safleoedd Carafannau a Rheoli Datblygu 1960 o ran safle rheoleiddiedig sydd wedi ei wneud i awdurdod lleol, ond sydd heb ei benderfynu ganddo, cyn i Ran 2 ddod i rym i’w drin ar ôl i’r Rhan honno ddod i rym fel cais i awdurdod lleol am drwydded safle o dan y Rhan honno o ran y safle rheoleiddiedig.

2Parhau trwyddedau safle presennol am y tro

1

Nid yw dod â Rhan 2 a pharagraff 1(2) o Atodlen 4 i rym yn effeithio ar barhad gweithredu darpariaethau Deddf Safleoedd Carafannau a Rheoli Datblygu 1960 o ran trwyddedau safle sy’n parhau mewn grym o dan y paragraff hwn.

2

Mae trwydded safle o dan Ddeddf Safleoedd Carafannau a Rheoli Datblygu 1960 sydd mewn grym pan ddaw Rhan 2 i rym o ran safle rheoleiddiedig yn parhau mewn rym tan ddiwedd y cyfnod cychwynnol oni bai—

a

ei bod yn cael ei dirymu yn ystod y cyfnod cychwynnol, neu

b

bod cais am drwydded safle o ran y safle rheoleiddiedig o dan Ran 2 wedi ei wneud yn ystod y cyfnod cychwynnol.

3

Os dirymir y drwydded safle o dan Ddeddf Safleoedd Carafannau a Rheoli Datblygu 1960 yn ystod y cyfnod cychwynnol mae’n parhau mewn grym hyd nes iddi gael ei dirymu.

4

Os gwneir cais am drwydded safle o ran y safle rheoleiddiedig o dan Ran 2 yn ystod y cyfnod cychwynnol, mae’r drwydded safle o dan Ddeddf Safleoedd Carafannau a Rheoli Datblygu 1960 yn parhau mewn grym hyd nes iddi gael ei therfynu (boed yn ystod y cyfnod cychwynnol ynteu ar ôl diwedd y cyfnod cychwynnol).

5

Yn y paragraff hwn a pharagraff 3, ystyr “y cyfnod cychwynnol” yw’ cyfnod o 6 mis sy’n dechrau â’r diwrnod y daw Rhan 2 i rym.

3Amser i benderfynu ar drwydded safle

Pan wneir cais am drwydded safle o ran safle rheoleiddiedig o dan Ran 2 cyn diwedd y cyfnod cychwynnol ac ar adeg pan fo trwydded safle o dan Ddeddf Safleoedd Carafannau a Rheoli Datblygu 1960 mewn grym o ran y safle rheoleiddiedig, mae adran 7(2) yn effeithiol o ran y cais fel pe bai “2 fis” wedi ei ddisodli gan “6 mis”.

4Parhau’r safonau enghreifftiol presennol

Mae unrhyw safonau enghreifftiol a wneir gan Weinidogion Cymru o dan adran 5(6) o Ddeddf Safleoedd Carafannau a Rheoli Datblygu 1960 sydd mewn grym yn union cyn i Ran 2 ddod i rym yn effeithiol ar ôl yr amser hwnnw (hyd nes eu disodli) fel pe baent wedi eu gwneud o dan adran 10.

5Dirymu cyn cychwyn

Mae’r cyfeiriad yn adran 7(5) at ddirymu trwydded safle o dan adran 18 neu 28 yn cynnwys dirymu trwydded safle o dan Ddeddf Safleoedd Carafannau a Rheoli Datblygu 1960 o dan adran 9 o’r Ddeddf honno.

6Troseddau cyn cychwyn i gyfrif at ddibenion penodol

Mae’r cyfeiriad yn is-adran (4)(b) o adran 18 at y trosedd o dan is-adran (1) o’r adran honno yn cynnwys trosedd o dan adran 9 o Ddeddf Safleoedd Carafannau a Rheoli Datblygu 1960 o ran trwydded safle o dan y Ddeddf honno o ran yr un tir.

7Erlyn troseddau cyn cychwyn

Nid oes dim mewn unrhyw ddarpariaeth yn y Ddeddf hon yn effeithio ar weithredu unrhyw ddeddfiad o ran troseddau a gyflawnwyd cyn i’r ddarpariaeth honno ddod i rym.

8Hen ddarpariaethau trosiannol ac arbedion

Mae i unrhyw ddarpariaeth drosiannol neu ddarpariaeth arbed sy’n ymwneud â dod ag unrhyw ddarpariaeth a ailddeddfir yn y Ddeddf hon i rym a all fod yn effeithiol o ran y ddarpariaeth fel y’i hailddeddfir yr un effaith o ran y ddarpariaeth fel y’i hailddeddfir ag a oedd iddi o ran y ddarpariaeth y mae’n ei hailddeddfu.

9Lleihad dros dro yn y gosb uchaf am drosedd neillog a brofir yn ddiannod

Yn achos trosedd a gyflawnwyd cyn i adran 154(1) o Ddeddf Cyfiawnder Troseddol 2003 ddod i rym, mae adran 43(3)(a) yn effeithiol fel pe bai “12 mis” wedi ei ddisodli gan “6 mis”.