(1)Os yw’n ymddangos i awdurdod lleol sydd wedi dyroddi trwydded safle bod perchennog y tir yn methu neu wedi methu cydymffurfio ag unrhyw un neu ragor o amodau’r drwydded safle, caiff yr awdurdod lleol roi i’r perchennog—
(a)hysbysiad cosb benodedig, neu
(b)hysbysiad cydymffurfio.
(2)Caiff Gweinidogion Cymru ddyroddi canllawiau i’r awdurdodau lleol ynghylch yr ystyriaethau y dylent eu hystyried wrth benderfynu a ddylid ymdrin â methiant i gydymffurfio ag amod mewn trwydded safle drwy roi hysbysiad cosb benodedig ynteu hysbysiad cydymffurfio.
(3)Rhaid i awdurdod lleol roi sylw i unrhyw ganllawiau o’r fath wrth wneud penderfyniad o’r fath.
(4)Pan fo hysbysiad cosb benodedig yn cael ei roi i berson mewn perthynas â methiant ond nad yw’r swm a bennir ynddo yn cael ei dalu yn unol â’r hysbysiad, caiff yr awdurdod lleol dynnu’r hysbysiad cosb benodedig yn ôl a rhoi hysbysiad cydymffurfio i’r person mewn perthynas â’r methiant.
Gwybodaeth Cychwyn
I1A. 15 ddim mewn grym ar y Cydsyniad Brenhinol, gweler a. 64(2)
I2A. 15 mewn grym ar 1.10.2014 gan O.S. 2014/11, ergl. 3(1)(b) (ynghyd ag ergl. 4)