RHAN 4CYTUNDEBAU CARTREFI SYMUDOL
I1I249Manylion cytundebau
1
Cyn gwneud cytundeb y mae’r Rhan hon yn gymwys iddo, rhaid i berchennog y safle gwarchodedig roi datganiad ysgrifenedig i’r meddiannydd arfaethedig o dan y cytundeb sydd—
a
yn pennu enwau a chyfeiriadau’r partïon,
b
yn cynnwys manylion y tir y bydd gan y meddiannydd arfaethedig hawl i osod y cartref symudol arno a’r rheini’n ddigon i adnabod y tir hwnnw,
c
yn nodi’r telerau datganedig sydd i’w cynnwys yn y cytundeb (gan gynnwys unrhyw reolau i’r safle),
d
yn nodi’r telerau sydd i’w hymhlygu gan adran 50(1), ac
e
yn cydymffurfio ag unrhyw ofynion eraill a bennir drwy reoliadau a wneir gan Weinidogion Cymru.
2
Rhaid i’r datganiad ysgrifenedig sy’n ofynnol o dan is-adran (1) gael ei roi—
a
heb fod yn hwyrach nag 28 o ddiwrnodau cyn dyddiad gwneud unrhyw gytundeb ynglŷn â gwerthu’r cartref symudol i’r meddiannydd arfaethedig, neu
b
(os na wneir cytundeb o’r fath cyn gwneud y cytundeb y mae’r Rhan hon yn gymwys iddo) heb fod yn hwyrach nag 28 o ddiwrnodau cyn dyddiad gwneud y cytundeb y mae’r Rhan hon yn gymwys iddo.
3
Ond os bydd y meddiannydd arfaethedig yn cydsynio mewn ysgrifen i’r datganiad hwnnw gael ei roi erbyn dyddiad (“y dyddiad a ddewiswyd”) sy’n llai nag 28 o ddiwrnodau cyn y dyddiad a grybwyllir yn is-adran (2)(a) neu (b), rhaid i’r datganiad gael ei roi i’r meddiannydd arfaethedig heb fod yn hwyrach na’r dyddiad a ddewiswyd.
4
O ran unrhyw deler datganedig heblaw rheol safle—
a
os yw wedi ei gynnwys mewn cytundeb y mae’r F1Rhan hon yn gymwys iddo, ond
b
na chafodd ei nodi mewn datganiad ysgrifenedig a roddwyd i’r meddiannydd arfaethedig yn unol ag is-adrannau (1) i (3),
mae’r teler yn anorfodadwy gan y perchennog neu gan unrhyw berson o fewn adran 53(1); ond mae hyn yn darostyngedig i unrhyw orchymyn a wneir gan y corff barnwrol priodol o dan adran 50(3).
5
Os yw’r perchennog wedi methu rhoi datganiad ysgrifenedig i’r meddiannydd yn unol ag is-adrannau (1) i (3), caiff y meddiannydd, ar unrhyw adeg ar ôl i’r cytundeb gael ei wneud, wneud cais i’r corff barnwrol priodol am orchymyn sy’n ei gwneud yn ofynnol i’r perchennog—
a
rhoi datganiad ysgrifenedig i’r meddiannydd sy’n cydymffurfio â pharagraffau (a) i (e) o is-adran (1) (a ddarllenir ag unrhyw addasiadau y mae eu hangen i adlewyrchu’r ffaith bod y cytundeb wedi ei wneud), a
b
gwneud hynny erbyn unrhyw ddyddiad a bennir yn y gorchymyn.
6
Caniateir i ddatganiad y mae’n ofynnol ei roi i berson o dan yr adran hon gael ei roi i’r person yn bersonol neu ei anfon at y person drwy’r post.
7
Mae unrhyw gyfeiriad yn yr adran hon at wneud cytundeb y mae’r Rhan hon yn gymwys iddo yn cynnwys cyfeiriad at unrhyw amrywiad ar gytundeb y mae’r cytundeb yn dod yn gytundeb y mae’r Rhan hon yn gymwys iddo yn ei rinwedd.
8
Nid yw is-adrannau (2), (3) a (5) yn gymwys mewn perthynas â pherson sy’n meddiannau neu’n bwriadu meddiannu llain dramwy ar safle Sipsiwn a Theithwyr awdurdod lleol; ac yn yr achos hwnnw mae’r cyfeiriad yn is-adran (4) at is-adrannau (1) i (3) i’w drin yn gyfeiriad at is-adran (1).