RHAN 6ATODOL A CHYFFREDINOL
58Diwygiadau canlyniadol ac atodol etc.
1
Mae Atodlen 4 yn cynnwys diwygiadau canlyniadol.
2
Mae Atodlen 5 yn cynnwys darpariaethau trosiannol, darpariaethau darfodol ac arbedion.
3
Caiff Gweinidogion Cymru drwy orchymyn—
a
gwneud unrhyw ddiwygiadau eraill (gan gynnwys diddymu neu ddirymu) i unrhyw ddeddfiad neu offeryn sy’n ganlyniadol i unrhyw ddarpariaeth a wneir gan y Ddeddf hon, a
b
gwneud unrhyw ddarpariaeth drosiannol neu ddarfodol arall, neu arbedion eraill, sy’n ymddangos yn briodol mewn cysylltiad â dod ag unrhyw un neu ragor o ddarpariaethau’r Ddeddf hon i rym.