RHAN 6ATODOL A CHYFFREDINOL

I161Ystyr “cymdeithas trigolion gymwys”

1

At ddibenion y Ddeddf hon mae cymdeithas yn “gymdeithas trigolion gymwys”, o ran safle—

a

os yw’n gymdeithas sy’n cynrychioli meddianwyr cartrefi symudol ar y safle,

b

os yw meddianwyr o leiaf 50 y cant o’r cartrefi symudol hynny’n aelodau o’r gymdeithas,

c

os yw’n annibynnol ar berchennog y safle, sydd ynghyd ag unrhyw asiant neu gyflogai i’r perchennog, wedi ei wahardd rhag bod yn aelod,

d

os yw aelodaeth, yn ddarostyngedig i baragraff (c), yn agored i feddianwyr pob cartref symudol ar y safle,

e

os yw ei rheolau a’i chyfansoddiad yn agored i’r cyhoedd gael edrych arnynt ac os yw’n cynnal rhestr o aelodau,

f

os oes ganddi gadeirydd, ysgrifennydd a thrysorydd sy’n cael eu hethol gan ac o blith yr aelodau, ac

g

ac eithrio penderfyniadau gweinyddol a gymerir gan y cadeirydd, yr ysgrifennydd a’r trysorydd gan weithredu yn eu swyddogaethau swyddogol, os yw’r penderfyniadau’n cael eu cymryd drwy bleidleisio a bod 1 bleidlais yn unig i bob cartref symudol.

2

Dim ond 1 meddiannydd o bob cartref symudol a gaiff fod yn aelod o’r gymdeithas; ac, os oes mwy nag 1 meddiannydd mewn cartref symudol, yr un sydd am fod yn aelod o’r gymdeithas yw p’un bynnag ohonynt y mae’r meddianwyr yn cytuno arno neu, yn niffyg cytundeb, yr un sydd a’i enw yn gyntaf ar y cytundeb i osod y cartref symudol ar y safle.

3

Nid yw cymdeithas yn gymdeithas trigolion gymwys o ran safle oni bai bod rhestr gyfoes o’r aelodau wedi ei chyflwyno i’r awdurdod lleol y mae’r safle wedi ei leoli yn ei ardal.

4

Pan fo copi o’r rhestr o aelodau cymdeithas wedi ei gyflwyno i awdurdod lleol, rhaid i’r awdurdod lleol—

a

cymryd camau rhesymol i ganfod a yw meddianwyr o leiaf 50 y cant o’r cartrefi symudol ar y safle yn aelodau o’r gymdeithas, a

b

rhoi hysbysiad ysgrifenedig i’r gymdeithas ac i’r perchennog yn datgan a yw wedi ei fodloni neu beidio fod meddianwyr o leiaf 50 y cant o’r cartrefi symudol ar y safle yn aelodau o’r gymdeithas.

5

Pan roddir hysbysiad i gymdeithas fod yr awdurdod lleol wedi ei fodloni bod meddianwyr o leiaf 50 y cant o’r cartrefi symudol ar y safle yn aelodau o’r gymdeithas, mae’r ddyletswydd i gyflwyno rhestr gyfoes o’i haelodau yn ei gwneud yn ofynnol iddi wneud hynny cyn gynted ag y bo’n rhesymol ymarferol ar ôl unrhyw newidiadau yn ei haelodaeth.

6

Os yw’n ymddangos i’r awdurdod lleol ar unrhyw adeg nad yw aelodau cymdeithas trigolion gymwys mwyach yn cynnwys meddianwyr o leiaf 50 y cant o’r cartrefi symudol ar y safle, rhaid i’r awdurdod lleol roi hysbysiad ysgrifenedig ar unwaith i’r gymdeithas ac i berchennog y safle nad yw y gymdeithas yn gymdeithas trigolion gymwys mwyach.

7

Yn yr adran hon—

  • F1...

  • ystyr “meddiannydd” (“occupier”), o ran cartref symudol a safle yw person sydd â hawl—

    1. a

      i osod y cartref symudol ar y safle, a

    2. b

      i feddiannu’r cartref symudol fel unig neu brif breswylfa’r person; ac

  • F1...

8

Mae datgelu rhestr o aelodau cymdeithas trigolion gymwys i’r cyhoedd gan awdurdod lleol, sef rhestr a gyflwynwyd i’r awdurdod hwnnw i’w drin at ddibenion adran 41(1) o Ddeddf Rhyddid Gwybodaeth 2000 fel pe bai’n torri cyfrinach y caiff aelodau’r gymdeithas ddwyn achos yn ei erbyn; ond nid oes dim yn yr is-adran hon yn gymwys i ddatgelu manylion y cadeirydd, yr ysgrifennydd neu’r trysorydd.