RHAN 6ATODOL A CHYFFREDINOL
I163Gorchmynion a rheoliadau etc.
1
Mae unrhyw bŵer sydd gan Weinidogion Cymru i wneud gorchymyn neu reoliadau o dan y Ddeddf hon yn arferadwy drwy offeryn statudol.
2
Nid yw is-adran (1) yn gymwys i’r pŵer ym mharagraff 14 o Atodlen 1.
3
Ni chaniateir i orchymyn gael ei wneud o dan adran 51 oni bai bod Gweinidogion Cymru wedi ymgynghori â’r canlynol—
a
unrhyw sefydliadau y mae’n ymddangos iddynt eu bod yn cynrychioli buddiannau y mae’r gorchymyn hwn yn effeithio’n sylweddol arnynt, a
b
unrhyw bersonau eraill sy’n briodol yn eu barn hwy.
4
Ni chaniateir gwneud gorchymyn o dan adran 60(4) oni bai bod Gweinidogion Cymru wedi ymgynghori â phersonau neu gyrff y mae’n ymddangos iddynt eu bod yn ymwneud â hyn.
5
Ni chaniateir gwneud yr un o’r canlynol oni bai bod drafft o’r offeryn statudol sy’n ei gynnwys wedi ei osod gerbron Cynulliad Cenedlaethol Cymru, ac wedi ei gymeradwyo drwy benderfyniad ganddo—
a
rheoliadau o dan adran 29(5),
b
gorchymyn o dan adran 51, neu
c
unrhyw orchymyn neu reoliadau o dan y Ddeddf hon, ac eithrio gorchymyn o dan adran 60(4), sy’n cynnwys diwygiad i ddeddfiad.
6
Mae offeryn statudol sy’n cynnwys—
a
rheoliadau o dan adran 49 neu 52 neu baragraff 9, 10, 12 neu 13 o Atodlen 2,
b
y rheoliadau cyntaf i gael eu gwneud o dan baragraff 11 neu 23 o’r Atodlen honno,
c
gorchymyn o dan adran 58(3)(a), neu
d
gorchymyn o dan adran 60(4),
yn ddarostyngedig i ddiddymiad yn unol â phenderfyniad gan Gynulliad Cenedlaethol Cymru oni bai bod drafft o’r offeryn statudol wedi cael ei gymeradwyo yn unol ag is-adran (5).
7
Caiff offeryn statudol sy’n cynnwys rheoliadau o dan unrhyw ddarpariaeth o’r Ddeddf hon heblaw paragraff 11 neu 23 o Atodlen 2 sy’n ddarostyngedig i ddiddymiad yn unol â phenderfyniad gan Gynulliad Cenedlaethol Cymru hefyd gynnwys rheoliadau a wneir o dan baragraff 11 neu 23 o Atodlen 2.
8
Caiff unrhyw orchymyn neu reoliadau o dan y Ddeddf hon wneud darpariaeth wahanol o ran achosion gwahanol neu ddisgrifiadau gwahanol o achos, gan gynnwys darpariaeth wahanol ar gyfer ardaloedd gwahanol neu (yn achos rheoliadau o dan baragraff 9 neu 10 o Atodlen 2) gwerthiannau am brisiau gwahanol.
9
Caiff unrhyw orchymyn neu reoliad o dan y Ddeddf hon gynnwys unrhyw ddarpariaethau cysylltiedig, atodol, canlyniadol, trosiannol neu ddarpariaethau arbed a wêl Gweinidogion Cymru yn dda.
10
Caiff Weinidogion Cymru amrywio neu dynnu’n ôl unrhyw ganllawiau a ddyroddir ganddynt o dan y Ddeddf hon.