xmlns:atom="http://www.w3.org/2005/Atom"

RHAN 6RHEOLI DATBLYGU ETC

Byrddau cydgynllunio a Pharciau Cenedlaethol

40Byrddau cydgynllunio i fod yn awdurdodau sylweddau peryglus

Yn adran 3 o Ddeddf Cynllunio (Sylweddau Peryglus) 1990 (p. 10) (awdurdodau sylweddau peryglus heblaw cynghorau sir a chynghorau bwrdeistref sirol), ar ôl is-adran (5B) mewnosoder—

(5C)A joint planning board constituted under section 2(1B) of the principal Act for a united district in Wales is the hazardous substances authority for land in the united district unless subsection (4) or (5) applies.

41Pŵer i wneud darpariaeth sy’n galluogi byrddau cydgynllunio i arfer swyddogaethau rheoli datblygu mewn Parciau Cenedlaethol

(1)Caiff Gweinidogion Cymru drwy reoliadau wneud darpariaeth ar gyfer ac mewn cysylltiad â galluogi gorchymyn o dan adran 2(1B) o DCGTh 1990 (byrddau cydgynllunio yng Nghymru) i—

(a)furfio ardal sy’n cynnwys Parc Cenedlaethol yng Nghymru i gyd neu ran ohoni fel dosbarth unedig, a

(b)ffurfio bwrdd cydgynllunio i fod yr awdurdod cynllunio lleol ar gyfer dosbarth unedig o’r fath at ddibenion y Deddfau cynllunio.

(2)Caiff y rheoliadau hefyd wneud darpariaeth ynghylch a yw swyddogaethau awdurdod sylweddau peryglus o dan Ddeddf Cynllunio (Sylweddau Peryglus) 1990 (p. 10) i fod yn arferadwy mewn perthynas ag unrhyw ran o Barc Cenedlaethol sydd wedi ei chynnwys mewn dosbarth unedig o’r fath gan y bwrdd cydgynllunio ar gyfer y dosbarth unedig neu gan yr awdurdod Parc Cenedlaethol ar gyfer y Parc.

(3)Caiff rheoliadau o dan yr adran hon—

(a)gwneud darpariaeth wahanol at ddibenion gwahanol ac ar gyfer achosion gwahanol;

(b)gwneud darpariaeth gysylltiedig, atodol, ganlyniadol, ddarfodol, drosiannol ac arbed.

(4)Caiff rheoliadau o dan yr adran hon ddiwygio neu fel arall addasu—

(a)unrhyw ddeddfiad sydd wedi ei gynnwys yn y Deddfau cynllunio neu DCPhG 2004, neu sydd wedi ei gynnwys ynddynt;

(b)unrhyw ddeddfiad arall sy’n ymwneud â swyddogaethau sy’n arferadwy gan awdurdodau cynllunio lleol neu mewn perthynas â hwy;

(c)unrhyw ddeddfiad sy’n ymwneud â Pharciau Cenedlaethol neu â swyddogaethau sy’n arferadwy gan awdurdodau Parc Cenedlaethol neu mewn perthynas â hwy.

(5)Caiff rheoliadau o dan yr adran hon wneud darpariaeth bod swyddogaeth yn arferadwy gan berson arall neu mewn perthynas â pherson arall yn hytrach nag, neu yn ogystal ag, unrhyw berson y byddai’r swyddogaeth yn arferadwy ganddo neu mewn perthynas ag ef fel arall.

(6)Mae’r pŵer i wneud rheoliadau o dan yr adran hon yn arferadwy drwy offeryn statudol.

(7)Ni chaniateir gwneud offeryn statudol sy’n cynnwys rheoliadau o dan yr adran hon oni bai bod drafft o’r offeryn wedi ei osod gerbron Cynulliad Cenedlaethol Cymru a’i gymeradwyo ganddo drwy benderfyniad.

(8)Yn yr adran hon—

42Byrddau cydgynllunio: pŵer i wneud darpariaeth ganlyniadol ac atodol

(1)Mae adran 9 o DCGTh 1990 (pŵer i wneud darpariaeth ganlyniadol ac atodol ynghylch awdurdodau cynllunio) wedi ei diwygio fel a ganlyn.

(2)Daw’r ddarpariaeth bresennol yn is-adran (1) o’r adran honno.

(3)Ar ôl yr is-adran honno mewnosoder—

(2) The provision consequential upon or supplementary to section 2 that may be made by the Welsh Ministers under this section includes provision amending or otherwise modifying—

(a)any enactment contained in, or made under, the planning Acts or the Planning and Compulsory Purchase Act 2004;

(b)any other enactment relating to functions exercisable by or in relation to local planning authorities;

(c)any other enactment relating to functions exercisable by local authorities of any description in connection with the development of land.