Deddf Cynllunio (Cymru) 2015

Penderfynu ar geisiadau am ganiatâd cynllunioLL+C

31Y GymraegLL+C

(1)Mae adran 70 o DCGTh 1990 (penderfynu ar geisiadau: ystyriaethau cyffredinol) wedi ei diwygio fel a ganlyn.

(2)Yn is-adran (2), ar ôl paragraff (a) mewnosoder—

(aa)any considerations relating to the use of the Welsh language, so far as material to the application;.

(3)Ar ôl is-adran (2) mewnosoder—

(2ZA)Subsection (2)(aa) applies only in relation to Wales.

(4)Nid yw’r diwygiadau a wneir gan yr adran hon yn addasu—

(a)pa un ai a yw sylw i’w roi i unrhyw ystyriaeth benodol o dan is-adran (2) o adran 70 o DCGTh 1990, neu

(b)y pwysau sydd i’w roi i unrhyw ystyriaeth y rhoddir sylw iddi o dan yr is-adran honno.

Gwybodaeth Cychwyn

I1A. 31 mewn grym ar 6.9.2015 at ddibenion penodedig, gweler a. 58(2)(b)

I2A. 31 mewn grym ar 4.1.2016 i'r graddau nad yw eisoes mewn grym gan O.S. 2015/1987, ergl. 3(e)

32Pŵer i wrthod penderfynu ar ôl-gaisLL+C

Yn adran 70C o DCGTh 1990 (pŵer i wrthod penderfynu ar ôl-gais), yn is-adran (1), hepgorer “in England”.

Gwybodaeth Cychwyn

I3A. 32 mewn grym ar 6.9.2015 at ddibenion penodedig, gweler a. 58(2)(b)

I4A. 32 mewn grym ar 16.3.2016 i'r graddau nad yw eisoes mewn grym gan O.S. 2016/52, ergl. 5(b) (ynghyd ag ergl. 11)