RHAN 8MEYSYDD TREF A PHENTREF

52Datganiad gan berchennog i ddod â diwedd i ddefnyddio tir drwy hawl

1

Mae adran 15A o Ddeddf Tiroedd Comin 2006 (p.26) (cofrestru meysydd: datganiad gan berchennog) wedi ei diwygio fel a ganlyn.

2

Yn is-adran (1), hepgorer “in England”.

3

Hepgorer is-adran (8).

53Eithrio o’r hawl i wneud cais am gofrestru

1

Mae Deddf Tiroedd Comin 2006 wedi ei diwygio fel a ganlyn.

2

Yn adran 15C (cofrestru meysydd: eithriadau)—

a

yn is-adran (1)—

i

hepgorer “in England”;

ii

yn lle “Schedule 1A” rhodder “the relevant Schedule”;

b

yn is-adran (2), ar ôl “the Table” mewnosoder “set out in the relevant Schedule”;

c

yn is-adrannau (3) a (4), yn lle “Secretary of State” rhodder “appropriate national authority”;

d

yn is-adran (5)—

i

yn lle “Secretary of State” rhodder “appropriate national authority”;

ii

yn lle “Schedule 1A” rhodder “the relevant Schedule”;

e

ar ôl is-adran (8) mewnosoder—

9

In this section “the relevant Schedule” means—

a

Schedule 1A, in relation to land in England;

b

Schedule 1B, in relation to land in Wales.

3

Ar ôl Atodlen 1A (y mae ei henw yn newid i “Exclusion of right under section 15: England”) mewnosoder yr Atodlen a nodir yn Atodlen 6.

54Ceisiadau i ddiwygio cofrestrau: pŵer i wneud darpariaeth ynghylch ffioedd

1

Mae adran 24 o Ddeddf Tiroedd Comin 2006 (ceisiadau etc) wedi ei diwygio fel a ganlyn.

2

Yn is-adran (2A), hepgorer “made by the Secretary of State”.

3

Hepgorer is-adran (2B).