xmlns:atom="http://www.w3.org/2005/Atom"

RHAN 9DARPARIAETHAU CYFFREDINOL

55Rheoliadau a gorchmynion a wneir gan Weinidogion Cymru

Ar gyfer diwygiadau sy’n ymwneud â rheoliadau a gorchmynion a wneir gan Weinidogion Cymru, gweler Atodlen 7.

56Dehongli

Yn y Ddeddf hon—

57Pŵer i wneud darpariaeth ganlyniadol etc

(1)Caiff Gweinidogion Cymru drwy reoliadau wneud darpariaeth ganlyniadol, gysylltiedig, drosiannol neu arbed at ddiben rhoi effaith lawn i unrhyw ddarpariaeth yn y Ddeddf hon, neu o ganlyniad h i unrhyw ddarpariaeth yn y Ddeddf hon.

(2)Caiff rheoliadau o dan yr adran hon ddiwygio, dirymu neu ddiddymu unrhyw ddeddfiad sydd wedi ei gynnwys mewn deddfwriaeth sylfaenol, neu a wneir oddi tani.

(3)Mae’r pŵer i wneud rheoliadau o dan yr adran hon yn arferadwy drwy offeryn statudol.

(4)Ni chaniateir gwneud offeryn statudol sy’n cynnwys (pa un ai ar ei ben ei hun neu gyda darpariaeth arall) rheoliadau o dan yr adran hon sy’n diwygio neu’n diddymu deddfiad sydd wedi ei gynnwys mewn deddfwriaeth sylfaenol oni bai bod drafft o’r offeryn wedi ei osod gerbron Cynulliad Cenedlaethol Cymru a’i gymeradwyo ganddo drwy benderfyniad.

(5)Mae offeryn statudol sy’n cynnwys rheoliadau o dan yr adran hon nad yw is-adran (4) yn gymwys iddo yn ddarostyngedig i’w ddiddymu yn unol â phenderfyniad gan Gynulliad Cenedlaethol Cymru.

(6)Yn yr adran hon, ystyr “deddfwriaeth sylfaenol” yw—

(a)Deddf Seneddol;

(b)Deddf neu Fesur Cynulliad Cenedlaethol Cymru.

58Dod i rym

(1)Daw’r darpariaethau a ganlyn i rym ar y diwrnod y mae’r Ddeddf hon yn cael y Cydsyniad Brenhinol—

(a)Rhan 1;

(b)adrannau 56 a 57;

(c)yr adran hon;

(d)adran 59.

(2)Daw’r darpariaethau a ganlyn i rym ar ddiwedd y cyfnod o ddau fis sy’n dechrau gyda’r diwrnod y mae’r Ddeddf hon yn cael y Cydsyniad Brenhinol—

(a)adran 55;

(b)Rhannau 3 i 8, i’r graddau y maent yn angenrheidiol er mwyn galluogi Gweinidogion Cymru i arfer unrhyw swyddogaeth o ran gwneud rheoliadau neu orchmynion drwy offeryn statudol o dan unrhyw ddeddfiad fel a ddiwygir gan y Rhannau hynny.

(3)Nid oes unrhyw beth yn is-adran (2)(b) yn effeithio ar weithrediad adran 13 o Ddeddf Dehongli 1978 (p. 30) (arfer pwerau yn rhagflaenorol) mewn perthynas â’r Ddeddf hon.

(4)Mae’r darpariaethau a ganlyn yn dod i rym ar y cyfryw ddiwrnod a bennir gan Weinidogion Cymru drwy orchymyn—

(a)Rhan 2;

(b)Rhannau 3 i 8, i’r graddau nad ydynt yn cael eu dwyn i rym gan is-adran (2)(b).

(5)Mae’r pŵer i wneud gorchymyn o dan is-adran (4)—

(a)yn arferadwy drwy offeryn statudol;

(b)yn cynnwys pŵer—

(i)i bennu gwahanol ddyddiau at wahanol ddibenion, a

(ii)i wneud darpariaeth drosiannol, darpariaeth ddarfodol neu ddarpariaeth arbed mewn cysylltiad â dod â darpariaeth o’r Ddeddf hon i rym.

59Enw byr

Enw byr y Ddeddf hon yw Deddf Cynllunio (Cymru) 2015.