xmlns:atom="http://www.w3.org/2005/Atom" xmlns:atom="http://www.w3.org/2005/Atom"

RHAN 9LL+CDARPARIAETHAU CYFFREDINOL

55Rheoliadau a gorchmynion a wneir gan Weinidogion CymruLL+C

Ar gyfer diwygiadau sy’n ymwneud â rheoliadau a gorchmynion a wneir gan Weinidogion Cymru, gweler Atodlen 7.

Gwybodaeth Cychwyn

I1A. 55 mewn grym ar 6.9.2015, gweler a. 58(2)(a)

56DehongliLL+C

Yn y Ddeddf hon—

Gwybodaeth Cychwyn

I2A. 56 mewn grym ar y Cydsyniad Brenhinol, gweler a. 58(1)(b)

57Pŵer i wneud darpariaeth ganlyniadol etcLL+C

(1)Caiff Gweinidogion Cymru drwy reoliadau wneud darpariaeth ganlyniadol, gysylltiedig, drosiannol neu arbed at ddiben rhoi effaith lawn i unrhyw ddarpariaeth yn y Ddeddf hon, neu o ganlyniad h i unrhyw ddarpariaeth yn y Ddeddf hon.

(2)Caiff rheoliadau o dan yr adran hon ddiwygio, dirymu neu ddiddymu unrhyw ddeddfiad sydd wedi ei gynnwys mewn deddfwriaeth sylfaenol, neu a wneir oddi tani.

(3)Mae’r pŵer i wneud rheoliadau o dan yr adran hon yn arferadwy drwy offeryn statudol.

(4)Ni chaniateir gwneud offeryn statudol sy’n cynnwys (pa un ai ar ei ben ei hun neu gyda darpariaeth arall) rheoliadau o dan yr adran hon sy’n diwygio neu’n diddymu deddfiad sydd wedi ei gynnwys mewn deddfwriaeth sylfaenol oni bai bod drafft o’r offeryn wedi ei osod gerbron Cynulliad Cenedlaethol Cymru a’i gymeradwyo ganddo drwy benderfyniad.

(5)Mae offeryn statudol sy’n cynnwys rheoliadau o dan yr adran hon nad yw is-adran (4) yn gymwys iddo yn ddarostyngedig i’w ddiddymu yn unol â phenderfyniad gan Gynulliad Cenedlaethol Cymru.

(6)Yn yr adran hon, ystyr “deddfwriaeth sylfaenol” yw—

(a)Deddf Seneddol;

(b)Deddf neu Fesur Cynulliad Cenedlaethol Cymru.

Gwybodaeth Cychwyn

I3A. 57 mewn grym ar y Cydsyniad Brenhinol, gweler a. 58(1)(b)

58Dod i rymLL+C

(1)Daw’r darpariaethau a ganlyn i rym ar y diwrnod y mae’r Ddeddf hon yn cael y Cydsyniad Brenhinol—

(a)Rhan 1;

(b)adrannau 56 a 57;

(c)yr adran hon;

(d)adran 59.

(2)Daw’r darpariaethau a ganlyn i rym ar ddiwedd y cyfnod o ddau fis sy’n dechrau gyda’r diwrnod y mae’r Ddeddf hon yn cael y Cydsyniad Brenhinol—

(a)adran 55;

(b)Rhannau 3 i 8, i’r graddau y maent yn angenrheidiol er mwyn galluogi Gweinidogion Cymru i arfer unrhyw swyddogaeth o ran gwneud rheoliadau neu orchmynion drwy offeryn statudol o dan unrhyw ddeddfiad fel a ddiwygir gan y Rhannau hynny.

(3)Nid oes unrhyw beth yn is-adran (2)(b) yn effeithio ar weithrediad adran 13 o Ddeddf Dehongli 1978 (p. 30) (arfer pwerau yn rhagflaenorol) mewn perthynas â’r Ddeddf hon.

(4)Mae’r darpariaethau a ganlyn yn dod i rym ar y cyfryw ddiwrnod a bennir gan Weinidogion Cymru drwy orchymyn—

(a)Rhan 2;

(b)Rhannau 3 i 8, i’r graddau nad ydynt yn cael eu dwyn i rym gan is-adran (2)(b).

(5)Mae’r pŵer i wneud gorchymyn o dan is-adran (4)—

(a)yn arferadwy drwy offeryn statudol;

(b)yn cynnwys pŵer—

(i)i bennu gwahanol ddyddiau at wahanol ddibenion, a

(ii)i wneud darpariaeth drosiannol, darpariaeth ddarfodol neu ddarpariaeth arbed mewn cysylltiad â dod â darpariaeth o’r Ddeddf hon i rym.

Gwybodaeth Cychwyn

I4A. 58 mewn grym ar y Cydsyniad Brenhinol, gweler a. 58(1)(c)

59Enw byrLL+C

Enw byr y Ddeddf hon yw Deddf Cynllunio (Cymru) 2015.

Gwybodaeth Cychwyn

I5A. 59 mewn grym ar y Cydsyniad Brenhinol, gweler a. 58(1)(d)