RHAN 1CYFLWYNIAD
1Trosolwg o’r Ddeddf hon
1
Mae’r Rhan hon yn darparu trosolwg o’r Ddeddf hon.
2
Mae Rhan 2 o’r Ddeddf hon yn gwneud darpariaeth ynghylch datblygu cynaliadwy wrth arfer swyddogaethau sy’n ymwneud â chynllunio datblygu a cheisiadau am ganiatâd cynllunio.
3
Mae Rhan 3 o’r Ddeddf hon yn ymwneud â chynllunio datblygu yng Nghymru. Mae’n gwneud darpariaeth—
a
ar gyfer llunio ac adolygu Fframwaith Datblygu Cenedlaethol Cymru;
b
ar gyfer dynodi ardaloedd cynllunio strategol, sefydlu paneli cynllunio strategol a llunio cynlluniau datblygu strategol;
c
ynghylch statws Fframwaith Datblygu Cenedlaethol Cymru a chynlluniau datblygu strategol;
d
ynghylch cynlluniau datblygu lleol (gan gynnwys darpariaeth ynghylch cyfnod para cynlluniau, tynnu cynlluniau yn ôl a chyfarwyddydau i lunio cynlluniau ar y cyd);
e
i fyrddau cydgynllunio arfer swyddogaethau cynllunio datblygu.
4
Mae Rhan 3 hefyd yn gwneud darpariaeth ynghylch cyfansoddiad a threfniadau ariannol paneli cynllunio strategol.
5
Mae Rhan 4 o’r Ddeddf hon yn gwneud darpariaeth—
a
ynghylch ymgynghoriad i’w gynnal gan ddarpar ymgeisydd ar gyfer caniatâd cynllunio;
b
ynghylch gwasanaethau cyn ymgeisio sydd i’w darparu gan awdurdod cynllunio lleol neu Weinidogion Cymru.
6
Mae Rhan 5 o’r Ddeddf hon yn ymwneud â gwneud ceisiadau penodol i Weinidogion Cymru. Mae’n gwneud darpariaeth—
a
i geisiadau am ganiatâd cynllunio ar gyfer datblygiad o arwyddocâd cenedlaethol yng Nghymru gael eu gwneud i Weinidogion Cymru yn hytrach nag i awdurdod cynllunio lleol;
b
i geisiadau penodol eraill gael eu gwneud naill ai i Weinidogion Cymru neu i awdurdod cynllunio lleol.
7
Mae Rhan 5 hefyd yn gwneud darpariaeth—
a
i rai o swyddogaethau penodol Gweinidogion Cymru, o ran ceisiadau a wneir iddynt, gael eu harfer gan berson penodedig;
b
ar gyfer diwygiadau pellach i ddeddfwriaeth bresennol o ran gwneud ceisiadau i Weinidogion Cymru.
8
Mae Rhan 6 o’r Ddeddf hon yn ymwneud â rheoli datblygu a materion cysylltiedig. Mae’n gwneud darpariaeth ynghylch—
a
gofynion sy’n ymwneud â cheisiadau cynllunio, gan gynnwys darpariaeth ar gyfer apelau pan fo awdurdod cynllunio lleol yn rhoi hysbysiad nad yw cais yn ddilys;
b
hysbysiadau am benderfyniadau i roi caniatâd cynllunio;
c
hysbysiadau am ddechrau datblygiad y rhoddwyd caniatâd ar ei gyfer;
d
cyfnod para’r caniatâd cynllunio;
e
ymgynghori yng nghyswllt ceisiadau ar gyfer cymeradwyo materion a gadwyd yn ôl a cheisiadau penodol eraill;
f
trefniadau i’w gwneud gan awdurdodau cynllunio lleol ar gyfer cyflawni eu swyddogaethau sy’n ymwneud â cheisiadau cynllunio.
9
Mae Rhan 6 hefyd—
a
yn cymhwyso i Gymru ddarpariaeth statudol bresennol ynghylch o dan ba amgylchiadau y caiff awdurdod cynllunio lleol wrthod penderfynu ar ôl-gais;
b
yn gwneud darpariaeth ynghylch cau llwybrau cyhoeddus;
c
yn gwneud darpariaeth ynghylch swyddogaethau byrddau cydgynllunio ac ynghylch pŵer Gweinidogion Cymru i sefydlu byrddau cydgynllunio.
10
Mae Rhan 7 o’r Ddeddf hon yn ymwneud â gorfodi, apelau a gweithdrefnau cynllunio penodol eraill. Mae’n gwneud darpariaeth—
a
o ran galluogi awdurdodau cynllunio lleol i ddyroddi hysbysiadau rhybudd gorfodi;
b
ynghylch yr amgylchiadau pan ystyrir bod person sy’n apelio yn erbyn hysbysiad gorfodi wedi gwneud cais am ganiatâd cynllunio;
c
ynghylch yr amgylchiadau pan na chaiff person apelio yn erbyn gwrthod cais am ganiatâd cynllunio neu yn erbyn hysbysiad gorfodi;
d
o ran atal amrywio ceisiadau penodol unwaith y mae hysbysiad am apêl wedi ei gyflwyno;
e
i apelau yn erbyn hysbysiadau mewn cysylltiad â thir sy’n cael effaith andwyol ar amwynder gael eu gwneud i Weinidogion Cymru;
f
ynghylch y weithdrefn ar gyfer achosion penodol a thalu costau a’u dyfarnu.
11
Mae Rhan 8 yn ymwneud â meysydd tref a phentref. Mae’n gwneud darpariaeth—
a
o ran cyfyngu’r amgylchiadau pan ganiateir gwneud ceisiadau i gofrestru tir yn faes tref neu bentref;
b
ynghylch penderfynu ar ffioedd mewn perthynas â cheisiadau.
12
Mae Rhan 9 yn cynnwys darpariaethau sy’n gymwys yn gyffredinol at ddibenion y Ddeddf hon (gan gynnwys darpariaeth ynghylch gwneud is-ddeddfwriaeth gan Weinidogion Cymru ac ynghylch dehongli’r Ddeddf a’r Ddeddf yn dod i rym).